Cartoon image of Millicent Mackenzie

Gwobr yr Athro Millicent Mackenzie am ddatblygiad EDI mewn Bywyd Academaidd neu Broffesiynol

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2026

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2026

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2026

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2026

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2026

Seremoni Wobrwyo

Am y Wobr yr Athro Millicent Mackenzie

Mae’r wobr hon yn cydnabod tîm neu unigolyn sydd wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i hyrwyddo neu ymgorffori Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) o fewn eu hymchwil neu arloesi - gan ddangos ymrwymiad eithriadol a pharhaus i ddatblygu EDI y tu hwnt i ddisgwyliadau.

Bydd enillwyr y wobr hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Gwreiddio Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eu ffyrdd o weithio mewn ymchwil neu arloesedd, neu eirioli drostynt.
  • Dangos ymrwymiad eithriadol a pharhaus i ddatblygu EDI y tu hwnt i ddisgwyliadau o fewn eu gweithle, cymuned etc – gan rannu’r hyn a gyflawnwyd drwy roi’r gwerthoedd hynny ar waith.
  • Cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion neu dimau.

Pwy oedd yr Athro Millicent Mackenzie a pham ei bod yn cael ei chysylltu â’n gwobr ‘Datblygiad EDI mewn Bywyd Academaidd neu Broffesiynol’

Etholfreintwraig ac addysgwraig arloesol oedd yr Athro Millicent MacKenzie a hi oedd y ‘fenyw gyntaf’ mewn sawl maes.  Y fenyw gyntaf i ddod yn Athro yng Nghymru ac yn ddiweddarach y fenyw gyntaf yng Nghymru i sefyll ar gyfer y Senedd.  Roedd yn aelod sefydlol o Gymdeithas Pleidlais i Fenywod Caerdydd oedd wedi ymroi i fynd i’r afael â thlodi. Roedd yn angerddol dros welliant addysgol a chymdeithasol a thros bleidlais i fenywod.

Darllenwch ragor am yr Athro Millicent Mackenzie.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan