Ar agor ar gyfer enwebiadau
Dyddiad olaf i enwebu
Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau
Canlyniad y penderfyniad
Seremoni Wobrwyo
Bydd enillwyr y fedal hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:
Ar agor i unigolion yn unig.
Rydym yn cydnabod y gall Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar fod ar gamau gwahanol iawn o’u gyrfa. Byddwn yn ystyried enwebiadau gan ystod eang o bobl – ein diffiniad bras o Ymchwilydd Gyrfa Gynnar yw rhywun sydd fel arfer, pan fydd yr enwebiadau’n cau, â llai na deng mlynedd o brofiad mewn ymchwil neu waith proffesiynol perthnasol (neu gyfwerth â llawn amser). Bydd enwebiadau gan unigolion nad ydynt o fewn y cyfwng amser hwn, ond sydd wedi cymryd toriad gyrfa neu seibiant o’u hymchwilam unrhyw reswm yn cael eu hystyried hefyd.
Roedd y teulu Dillwyn yn deulu enwog a gyflawnodd ragoriaeth eithriadol ar draws sawl maes gwahanol o weithgarwch yn y celfyddydau a’r gwyddorau drwy gydol y cenedlaethau. Yn ddisgynyddion i’r ymgyrchydd diddymu William Dillwyn a’i fab y botanegydd a’r AS Lewis Weston Dillwyn, roeddent yn byw yn Abertawe ym Mhenllergare ac yn ddiweddarach Neuadd Sgeti.
Roedd sawl aelod o’r teulu yn defnyddio ystâd Penllergare fel lleoliad ar gyfer eu hamrywiol ddiddordebau mewn gwyddoniaeth, seryddiaeth, gwleidyddiaeth, botaneg, ffotograffiaeth a dyngarwch.
Roedd teulu Lewis yn chwarae rôl amlwg ar draws sawl maes, gan gynnwys y menywod, oedd yn anghyffredin i’r cyfnod. Ystyrir mai Mary Dillwyn, ei ferch oedd ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru. Roedd ei fab, John yn ffotograffydd a botanegydd arloesol ac roedd merch John Thereza yn seryddwraig ac yn ffotograffydd arloesol mewn ffotograffiaeth wyddonol. Roedd brawd John, Lewis, yn ddiwydiannwr ac AS – ac roedd ei ferched hefyd yn nodedig – Amy Dillwyn, diwydiannwr benywaidd cynnar a nofelydd a Mary, gwyfynegydd a mynyddwraig frwd.
Dysgwch ragor am y teulu Dillwyn yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
2024: Enillodd Dr Alix Beeston Fedal Dillwyn 2024. Mae Dr Beeston yn gweithio ar ymagweddau rhyngddisgyblaethol, ffeministaidd at lenyddiaeth, ffilm, a ffotograffiaeth.
2023: Enillodd Dr Rebecca Thomas Fedal Dillwyn 2023 am ei gwaith ymchwil i hanes gwleidyddol a diwylliannol yr Oesoedd Canol yng Nghymru.
2021: Dr Ben Guy am ei ymchwil ar achyddiaeth Cymru yn y Canol Oesoedd.
2020:Dr Gwennan Higham am ei ymchwil i ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth.
2017: Dr Amanda Rogers am ei gwaith i’r celfyddydau perfformio, yn benodol y theatr.