Dr Gwennan Higham

Dr Gwennan Higham, Uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, yw enillydd Medal Dillwyn 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.

Mae Dr Higham yn cynnal ymchwil i ieithoedd lleiafrifol, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth, ar ôl cwblhau doethuriaeth ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr. Mae hefyd wedi ymchwilio i integreiddio ieithyddol a’r iaith Ffrangeg yn Quebec. Mae gwaith Dr Higham yn archwilio’r berthynas rhwng hunaniaethau ethnig a dinesig a’r angen i ddiffinio a sefydlu dinasyddiaeth Gymreig amlethnig.

Yn sgil ei harbenigedd bu’n rheoli prosiect a gyllidwyd gan yr UE oedd yn canolbwyntio ar ofal iechyd mewn lleoliadau iaith leiafrifol a’r angen am adnoddau priodol ar gyfer cyfathrebu a rhyngweithio gyda chleifion. Mae natur gymharol yr ymchwil wedi arwain at ddealltwriaeth ddefnyddiol a all helpu i ffurfio polisi ac ymarfer.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Higham:

“Mae’n anrhydedd cael cydnabyddiaeth fel hyn i fy ymchwil. Mae dysgu Cymraeg i fewnfudwyr a’r goblygiadau i ddinasyddiaeth ac amlddiwylliannedd yng Nghymru’n brosiect parhaus a gobeithio y gwelwn ni ddatblygiadau pellach mewn polisi ac ymarfer ymhen blynyddoedd.

“Rwyf i’n wirioneddol ddiolchgar i Adran y Gymraeg a Phrifysgol Abertawe am gefnogi fy nhaith ymchwil hyd yma.”