Medal Dillwyn (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol) 2023: Dr Rebecca Thomas

Mae Dr Rebecca Thomas yn arbenigwr ar hanes y Gymru ganoloesol. Mae hi wedi cyhoeddi’n eang ar agweddau o hanes gwleidyddol a diwylliannol y cyfnod, gan gynnwys ei llyfr History and Identity in Early Mediveal Wales (Boydell, 2022), a enillodd gwobr Francis Jones am Hanes Cymru (2022).

Mae hi hefyd yn ysgrifennu’n greadigol, ac wedi cyhoeddi dwy nofel hanesyddol gyda Gwasg Carreg Gwalch (Dan Gysgod y Frenhines; Y Castell ar y Dŵr). Fe enillodd ei hysgrif ‘Cribo’r Dragon’s Back’ wobr ysgrif O’r Pedwar Gwynt 2021, ac yn 2022 fe’i penodwyd yn awdur preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

“Mae’n bleser ac anrhydedd derbyn y fedal hon, ac rwyf yn ddiolchgar i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac i bawb sydd wedi fy nghefnogi yn fy natblygiad fel ymchwilydd, darlithydd ac awdur yn y blynyddoedd diwethaf.

“Mae cael treulio fy amser yn ymchwilio i hanes y Gymru ganoloesol yn fraint arbennig, a chael rhannu’r ymchwil hwnnw gydag eraill yn un o bleserau pennaf fy swydd. Rwyf yn gobeithio y bydd fy ngwaith yn tynnu sylw at bwysigrwydd y pwnc ac yn ysbrydoli eraill i ddysgu mwy am hanes canoloesol Cymru.”

Dr Rebecca Thomas