2017 Medal y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau Dillwyn

Enillydd Medal y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau Dillwyn oedd Dr Amanda Rogers, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n ymchwilio i’r celfyddydau perfformio, yn benodol y theatr. Mae ei gwaith hyd yma wedi edrych ar faterion yn ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb, gan ddadansoddi mudo perfformwyr yn rhyngwladol. Mae ei hymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar adfywio celfyddydau Cambodia ar ôl hil-laddiad y Khmer Rouge.