Cartoon image of Gwen John

Medal Gwen John ar gyfer Dyniaethau a Chelfyddydau

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2026

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2026

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2026

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2026

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2026

Seremoni Wobrwyo

Am y Fedal Gwen John

Mae’r fedal hon yn dathlu cyfraniadau sylweddol i’r ddisgyblaeth Dyniaethau a Chelfyddydau gan unigolion penodol sy’n gweithio mewn ymchwil neu arloesi.

Bydd enillwyr y fedal hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Cyfraniad sylweddol i’w disgyblaeth/maes gwaith
  • Cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith y tu hwnt i gwmpas eu maes/disgyblaeth
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion yn unig.

Bydd enillwyr yn unigolion sydd ar ganol neu’n ddiweddarach yn eu gyrfa – diffinnir fel rhywun sydd fel arfer, pan gaiff ei enwebu, â mwy na deng mlynedd o brofiad mewn ymchwil neu waith proffesiynol perthnasol.  (10 mlynedd neu gyfwerth â 10 mlynedd llawn amser).

Pwy oedd Gwen John a pham ei bod yn cael ei chysylltu â’n ‘Medal ar gyfer Dyniaethau a Chelfyddydau’?

Astudiodd Gwen John gelf o 18 oed ymlaen, ac mae’n uchel iawn ei pharch fel artist a deithiodd Ewrop yn astudio a phaentio.  Arddangosir ei gwaith yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd a Tate Britain.  Fe’i ganwyd yn Hwlffordd a’i magu yn Ninbych-y-pysgod. Astudiodd yn yr unig ysgol gelf yn y DU oedd yn derbyn myfyrwyr benywaidd ar y pryd, gan weithio ochr yn ochr â nifer o artistiaid adnabyddus eraill y cyfnod.

Dysgwch ragor am Gwen John yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.