Yn bersonol

Cynhadledd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026

29 Meh, 2026:

9:00 am -

30 Meh, 2026:

5:00 pm

Cynhelir 4edd Colocwiwm blynyddol Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 29-30 Mehefin 2026. Mae’r Colocwiwm yn dwyn ynghyd ymchwilwyr gyrfa gynnar ar draws disgyblaethau i rannu syniadau, meithrin cysylltiadau a datblygu gyrfaoedd ymchwil mewn lleoliad cefnogol, rhyngddisgyblaethol. 

Mae’r Colocwiwm yn cynnig cyfleoedd i: 

  • Gyflwyno a thrafod ymchwil mewn amgylchedd cefnogol, rhyngddisgyblaethol 
  • Meithrin cysylltiadau â chyfoedion, cymrodyr, rhanddeiliaid allanol ac archwilio cydweithrediadau yn y dyfodol 
  • Datblygu sgiliau allweddol drwy ddatblygiad proffesiynol a gweithgareddau rhwydweithio 

Anogir ymchwilwyr sy’n gweithio o fewn y byd academaidd a thu hwnt i gymryd rhan. 

Mae’r Alwad am Gynigion nawr ar agor. Bydd cofrestru cyffredinol yn agor fis Ebrill 2026. 

Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a  Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Prifysgol Aberystwyth i gynnal Colocwiwm 2026 yn Aberystwyth.  

Manylion llawn a sut i gyflwyno cynnig: Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar 2026 – Cymdeithas Ddysgedig Cymru