A cartoon image of Megan Lloyd George

Medal Megan Lloyd George ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2027

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2027

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2027

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2027

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2027

Seremoni Wobrwyo

Am y Fedal Megan Lloyd George

Noder: bydd y fedal hon yn cael ei dyfarnu nesaf yn 2027. Bydd enwebiadau’n agor ym mis Mawrth 2027.

Mae’r fedal hon yn dathlu cyfraniadau sylweddol i’r ddisgyblaeth Gwyddorau Cymdeithasol gan unigolion penodol sy’n gweithio mewn ymchwil neu arloesi.

Bydd enillwyr y fedal hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Cyfraniad sylweddol i’w disgyblaeth/maes gwaith
  • Cyrhaeddiad ac effaith eu gwaith y tu hwnt i gwmpas eu maes/disgyblaeth
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion yn unig.

Bydd enillwyr yn unigolion sydd ar ganol neu’n ddiweddarach yn eu gyrfa – diffinnir fel rhywun sydd fel arfer, pan gaiff ei enwebu, â mwy na deng mlynedd o brofiad mewn ymchwil neu waith proffesiynol perthnasol.  (10 mlynedd neu gyfwerth â 10 mlynedd llawn amser).

Pwy oedd Megan Lloyd George a pham ei bod yn cael ei chysylltu â’n ‘Medal ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol’?

Daeth yr Arglwyddes Megan Lloyd George yn Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru pan enillodd Ynys Môn ym 1929.  Roedd yn ymgyrchydd brwd dros Lywodraeth i Gymru a chreu Ysgrifennydd Gwladol i Gymru.  Fe’i ganwyd yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn ferch i’r Prif Weinidog Lloyd George.  Yn ddiweddarach yn ei bywyd, roedd yn ddirprwy arweinydd y Blaid Ryddfrydol ac yna’n AS dros Gaerfyrddin.

Darllenwch ragor am Megan Lloyd George.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.