Cartoon image of Lady Rhondda

Gwobr Arglwyddes Rhondda am Gyflawniad Rhagorol

Amserlen enwebu

1 Mawrth 2026

Ar agor ar gyfer enwebiadau

12.00pm, 1 Mehefin 2026

Dyddiad olaf i enwebu

Mehefin – Gorffennaf 2026

Y Pwyllgor (au) Craffu Medalau a Gwobrau yn adolygu enwebiadau

Medi 2026

Canlyniad y penderfyniad

Hydref / Tachwedd 2026

Seremoni Wobrwyo

Am y Wobr yr Arglwyddes Rhondda

Mae’r wobr hon yn cydnabod cyflawniadau rhagorol unigolyn sy’n gweithio mewn unrhyw faes ymchwil neu arloesi.

Bydd enillwyr y wobr hon yn dangos cyfraniadau sylweddol mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • Cyfraniad nodedig ac eithriadol i ymchwil a/neu i wella gwybodaeth yng Nghymru/ar gyfer Cymru.
  • Enw da eithriadol yng Nghymru a thu hwnt.
  • Cyrhaeddiad ac effaith ar y gymdeithas ehangach.
  • Allbynnau nodedig o’u gwaith.
  • Unrhyw gyflawniadau nodedig eraill ee arloesedd, prosiectau mawr, trosglwyddo gwybodaeth, dosbarthu eu gwaith, etc.

Ar agor i unigolion.

Mae’n briodol iawn bod y wobr Cyflawniad Eithriadol yn cael ei chyflwyno er cof am Margaret. Byddai ei chyflawniadau’n anhygoel heddiw, heb sôn am gan mlynedd yn ôl. Roedd ei gallu i adnabod anghydraddoldebau cymdeithasol ac o ganlyniad yn cael canlyniadau cadarnhaol oherwydd ei gweithredoedd, yn gwbl anhygoel yn yr oes honno.

Pwy oedd Arglwyddes Rhondda a pham ei bod yn cael ei chysylltu â’n Gwobr Cyflawniad Rhagorol

Arglwyddes Rhondda (1883-1958) oedd – fel Margaret Mackworth – gellid dadlau, y swffragét fwyaf blaenllaw a gweithgar yng Nghymru. Yn ystod y Rhyfel Mawr daeth yn Gomisiynydd Cymru yn yr Adran Wasanaeth Cenedlaethol Menywod, ac yna’n bennaeth recriwtio menywod yng Ngweinyddiaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol. Yr 2il Is-iarlles Rhondda ers 1918, daeth yn ddiwydianwraig arweiniol, gan gadeirio 33 cwmni. Ym 1926 cafodd ei hethol yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Hi oedd yn gyfrifol am sefydlu, ariannu a golygu’r cyfnodolyn rhyng-ryfel blaenllaw Time & Tide. Yn hyrwyddwr hawliau cyfartal gydol oes, sefydlodd y Six Point Group ac arwain yr ymgyrch er mwyn i gyfoedion benywaidd gael seddi yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Mae Gorffennaf 2026 yn nodi 100 mlynedd ers iddi gael ei hethol yn llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Darllenwch ragor am yr Arglwyddes Rhondda yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Mewn cyfnod pan oedd yn anodd iawn i fenywod fod yn arweinwyr mewn unrhyw faes, torrodd yr Arglwyddes Rhondda o Gymru dir newydd fel hyrwyddwraig hawliau cyfartal parhaus, sylfaenydd a golygydd cyfnodolyn pwerus rhwng y ddau ryfel byd, menyw fusnes ryngwladol a llywydd benywaidd cyntaf Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Fel bywgraffydd y gyflawnwraig eithriadol hon mewn cymaint o wahanol feysydd, ymddengys ei bod yn hynod addas i wobr Cymdeithas Ddysgedig Cymru gael ei henwi ar ôl yr arloeswraig anhygoel, ddygn hon.

Bydd aelodau’r pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi’n fuan.