Amdanom ni



Sut mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cefnogi Datblygu Ymchwilwyr?

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi Genedlaethol Cymru ar gyfer y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Prif fwriad y Gymdeithas yw ‘cyfrannu at ddatblygiad gwyddonol, diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru a thu hwnt’ (Strategaeth CDdC 2023-2028; 3). Un o’r ffyrdd y mae’r Gymdeithas wedi ymrwymo i wneud hyn yw trwy dyfu talent ymchwil yng Nghymru trwy ‘cefnogi amgylchedd sy’n gwneud Cymru’n lle gwych i fod yn ymchwilydd, fel y gallwn helpu i gadw a thyfu ein sylfaen wybodaeth bresennol a datblygu ein harbenigwyr yn y dyfodol’ (Strategaeth CDdc 2023-2028; 3).

Sefydlwyd y Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr i gyflawni’r ymrwymiad hwn. Mae’r Rhaglen hon yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru, gan eu cefnogi i ddatblygu eu gyrfaoedd ymchwil i’r dyfodol a’u taith i tuag at fod y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr.

Pa ran mae Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn ei chwarae mewn llywio cynnwys y rhaglen?

I sicrhau bod ein holl gyfleoedd yn bodloni anghenion ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru, mae gwaith y Tîm Datblygu Ymchwilwyr yn cael ei arwain gan arbenigedd ein Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Ymchwilwyr, sy’n cynnwys tîm o ymchwilwyr ryngddisgyblaethol a Chymrodyr y Gymdeithas o bob cwr o Gymru.

Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (YGC)?

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr sy’n gweithio ledled Cymru ac sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd. Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi ymchwilwyr i dyfu eu rhwydweithiau ymchwil, cymryd rhan mewn cyfleoedd cydweithredol a rhyngddisgyblaethol, cael hyfforddiant, a dod o hyd i ffyrdd newydd o greu effaith gydag ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i ymchwilwyr drwy’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar?

Rhwydweithio

Dyluniwyd ein cyfleoedd i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu rhwydweithiau o fewn y byd academaidd a thu hwnt. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Colocwiwm Blynyddol YGC
  • Digwyddiadau ‘Cwrdd a Chyfarch’ a Sesiynau Rhwydweithio dros Ginio i gwrdd ag ymchwilwyr eraill, yn ogystal â Chymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
  • Cydweithrediadau gyda’n sefydliadau partner e.e. UK Young Academy, Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y British Academy, WISERD, Rhwydwaith Concordat Cymru, WGSSS, Coleg Cymraeg
  • Cydweithrediadau gyda Rhwydweithiau Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar eraill yng Nghymru a thu hwnt
  • Digwyddiadau rhwydweithio Cymraeg e.e. yn yr Eisteddfod.

Mae’r Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar blynyddol yn gyfle i aelodau’r Rhwydwaith gwrdd wyneb yn wyneb, rhannu eu hymchwil a chydweithio ar syniadau newydd. Ariennir y Colocwiwm yn llawn gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac mae bwrsariaethau teithio ar gael i ymchwilwyr sy’n teithio pellteroedd hirach i fod yn bresennol. Gallwch wrando ar yr hyn sydd gan ein Hymchwilwyr Gyrfa Gynnar i’w ddweud am y Colocwiwm yma.

Cynhelir y Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn, gallwch ddarllen rhagor am ein Colocwia blaenorol yma:

Rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a datblygiad am ddim i ymchwilwyr drwy gydol y flwyddyn. Darperir y cyfleoedd hyfforddiant hyn gan Gymrodyr y Gymdeithas, cyrff ariannu, llunwyr polisïau ac arbenigwyr eraill. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Fforwm Arbenigol Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar Anabledd yng Nghymru
  • Digwyddiadau Traethodau Ymchwil Tri Munud yn yr Eisteddfod Genedlaethol (mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg)
  • Digwyddiad Blwch Tywod Llwybrau i Heddwch (mewn partneriaeth â Academi Heddwch)
  • Effaith Ymchwil ac Ymgysylltu â Llunwyr Polisïau
  • Cyhoeddi eich Ymchwil
  • Sicrhau Cyllid
  • Mentoriaeth a Mentora
  • Hyfforddiant Cyfryngau
  • Llesiant Ymchwilwyr

Mae ein cynllun Grantiau Gweithdai Ymchwil yn darparu cyllid sbarduno i ymchwilwyr yng Nghymru ddatblygu partneriaethau neu rwydweithiau newydd ac agendâu ymchwil newydd. Mae’r cynllun yn gwahodd ceisiadau ar draws y themâu canlynol:

  • Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (pob pwnc)
  • Astudiaethau Cymreig
  • Y Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol
  • Llwybrau i Heddwch (noddir gan Academi Heddwch)

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dyfarnu medalau i ymchwilwyr sy’n rhagori ar eu pynciau. Mae’r Medalau Dillwyn yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yng Nghymru neu gyda chysylltiad â Chymru. Ar hyn o bryd, mae tair medal Dillwyn:

  • Gwyddorau, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth
  • Dyniaethau a Chelfyddydau Creadigol
  • Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes

Gall y tîm Datblygu Ymchwilwyr ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynghylch y broses enwebu.

Rydym yn cynnig bwrsariaethau teithio a llety i ymchwilwyr sy’n teithio pellteroedd hirach i fod yn bresennol yn ein digwyddiadau wyneb yn wyneb. Bydd gwybodaeth am yr hyn y gellir ei ddarparu a sut allwch hawlio’r cymorth hwn wedi ei hamlinellu yn y canllawiau ar gyfer y digwyddiad.

Mewn rhai achosion, gallwn hefyd gynnig cymorth i ymchwilwyr sy’n bresennol mewn cynadleddau a digwyddiadau. Bydd y cyllid hwn, pan fydd ar gael, yn cael ei hysbysebu yn ein cylchlythyr misol.

Drwy gofrestru ar gyfer y Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, byddwch yn derbyn cylchlythyr misol sy’n llawn cyfleoedd diweddaraf ar gyfer ymchwilwyr sy’n gweithio yng Nghymru.

Mae aelodau’r rhwydwaith hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r cylchlythyr fel man i rannu eu newyddion personol, o lwyddiannau proffesiynol i alwadau am gyfranogwyr ymchwil neu hyrwyddo cynhadledd/digwyddiadau. Os oes gennych chi newyddion yr hoffech ei rannu yn ein cylchlythyr nesaf, anfonwch e-bost atom: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.

Pwy all ymuno â’r Rhwydwaith YGC?

Mae’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ar gael i unrhyw berson sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd gyda chysylltiad â Chymru, ac sy’n arfer y teitl Ymchwilydd Gyrfa Gynnar.

Rydym yn rhoi sylw i bob sefydliad a phwnc academaidd yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y trydydd sector, y llywodraeth a diwydiant. Mae’r rhwydwaith hwn wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw berson sy’n dechrau gyrfa mewn ymchwil neu sy’n dechrau gweithio gydag ymchwilwyr.

Noder: Efallai y bydd gan rai o’n cyfleoedd feini prawf ychwanegol ar gyfer ymgeisio. Os felly, nodir hyn yng nghanllawiau’r digwyddiad neu gyfle.

Sut ydw i’n ymuno â’r Rhwydwaith YGC neu’n cael y wybodaeth ddiweddaraf o ran gwaith y Rhwydwaith?

Mae ymuno â’r Rhwydwaith yn broses syml ac am ddim. I gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio, llenwch y ffurflen gofrestru hon.

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen gofrestru, cewch eich ychwanegu at ein rhestr bostio a byddwch yn dechrau cael clywed am y cyfleoedd diweddaraf drwy ein rhestr bostio fisol. Dyma’r ffordd orau o gael y newyddion diweddaraf o ran y cyfleoedd a gynigiwn drwy gydol y flwyddyn.

Rydym hefyd yn hysbysebu ein holl gyfleoedd ar ein gwefan.

Sut fydd data personol yn cael ei drin?

Mae’r holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â Pholisi Preifatrwydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gellir ei weld yma.

Sut ydw i’n cysylltu â thîm Datblygu Ymchwilwyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr neu’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, cysylltwch â ni ar researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.

Cysylltwch hefyd os oes gennych chi unrhyw ddeunydd ar gyfer ein cylchlythyrau, syniadau ar gyfer post blog neu syniadau ar gyfer digwyddiadau/cyfleoedd i’r dyfodol yr hoffech i ni eu cynnig.

Newyddion RYGC Diweddaraf