Medalau a Gwobrau
Lluniwyd Medalau a Gwobrau Cymdeithas Ddysgedig Cymru i ddathlu ymchwilwyr ac ymarferwyr y mae eu gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar wella gwybodaeth a/neu rym ymchwil ac arloesi.
Rydym yn gwahodd pobl i enwebu unrhyw un sy’n gweithio yn y sector ymchwil neu arloesi ar draws amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys y byd academaidd, diwydiant, y sector elusennol, a’r celfyddydau.
Bydd gwaith yr enwebeion yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y fedal neu’r wobr ddewisol a bydd ganddynt gysylltiad amlwg â Chymru.