Yr Academi Genedlaethol yn cydlynu arbenigedd ar y cyd mewn ymateb i argyfwng Addysg Uwch Cymru
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn croesawu dechrau ffurfiol Adolygiad Addysg Uwch Llywodraeth Cymru wrth i’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol Cefin Campbell gyhoeddi’r aelodau o’r panel annibynnol.
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi dod â thîm o arbenigwyr ynghyd i lywio ei hymateb i’r Adolygiad. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth nid yn unig o bob rhan o’r sector Addysg Uwch, ond hefyd o lywodraeth leol, y diwydiant technoleg a’r GIG. Mae’n cynnwys aelodau o Gymru benbaladr a thu hwnt, gyda Chymrodyr alltud o’r Gymdeithas yn dod â safbwyntiau o systemau ymchwil rhyngwladol. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan aelod o Gyngor CDdC a chyn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens, “Mae’r grŵp hwn o arbenigwyr annibynnol yn adnodd unigryw i Gymru. Mae eu mewnwelediad yn hanfodol wrth i’r Llywodraeth adolygu ein system Addysg Uwch ac Ymchwil genedlaethol, sy’n profi heriau dybryd. Rydym yn ffodus bod yr Athro Treasure, sydd â phrofiad mor helaeth o’r sector, yn arwain y Grŵp.”
Lansiodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol Cefin Campbell yr Adolygiad Addysg Uwch yn y Senedd ym mis Medi. Mae grŵp newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn barod i gefnogi’r Athro Patrick Prendergast a’r panel adolygu yn y dasg bwysig sydd o’u blaenau.