Grantiau Gweithdai Ymchwil: Ar Agor am Geisiadau tan 14 Hydref

Mae ein Grantiau Gweithdai Ymchwil ar agor am geisiadau tan 4pm ar 14 Hydref 2026. Bwriedir i’r grantiau hwyluso rhyngweithio a phartneriaethau deallusol a chreadigol rhwng ymchwilwyr o wahanol ddisgyblaethau ac amrywiaeth o sefydliadau ar draws y gymuned academaidd a’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Maen nhw’n helpu gyda chostau cynnal gweithdy neu gyfres o weithdai, â’r nod o gynhyrchu cais mawr am gyllid a gweithgareddau ymchwil newydd arloesol. 

Mae’r grantiau wedi dod yn rhan bwysig o dirwedd ymchwil Cymru, gan gynorthwyo 94 o brosiectau ers lansio’r cynllun, i gyfanswm o bron i £95,000 a hyd at £1,000 i bob prosiect llwyddiannus. Mae’r 21 prosiect a gynorthwywyd y llynedd yn dangos pa mor boblogaidd y mae’r cynllun wedi dod mewn cyfnod byr, gyda’r prosiectau ymchwil yn amrywio o fepio ymysg pobl ifanc a dyfodol animeiddio yng Nghymru, i’r cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru ac Asia, morwellt mewn polisi rhyngwladol am yr hinsawdd ac effaith casineb ar-lein. 

Mae ein partneriaeth ag Academi Heddwch Cymru yn parhau i fod yn nodwedd bwysig o’r cynllun grantiau yma hefyd, gydag ystyriaeth arbennig yn mynd i brosiectau sy’n edrych ar sut y gallai Cymru hybu heddwch yng Nghymru neu’n rhyngwladol, a gyda gwerth £1000 o gyllid ychwanegol ar gael i gynorthwyo prosiectau sy’n cynnwys cydweithredwyr rhyngwladol.  Mae trosolwg o’r prosiectau a ariannwyd y llynedd i’w weld trwy glicio yma. 

Beth gall Grant Gweithdy Ymchwil ei gyflawni?

Yn ein blog diweddaraf, mae Anita Pilgrim (Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru) yn trafod sut y cynorthwyodd Grant Gweithdy Ymchwil o £1,000 ddatblygiad cymuned ymarfer sy’n tyfu â ffocws ar ehangu mynediad at addysg lefel uwch yng Nghymru. Ariannodd y grant ddwy seminar hybrid, y naill yng Ngholeg Cambria, Wrecsam a’r llall yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr, gan dynnu ymarferwyr ac ymchwilwyr ynghyd i rannu gwaith ymchwil heb ei gyhoeddi, arferion arloesol, a phrofiadau o gynorthwyo dysgwyr dan anfantais. 

Bu’r seminarau’n gyfle i’r cyfranogwyr gysylltu â’i gilydd, cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sy’n gyfrifol am lunio polisïau cenedlaethol, gan gynnwys y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ar y pryd, a ddaeth i seminar Pen-y-bont. Mae’r gwaith bellach yn arwain at rifyn arbennig o’r cyfnodolyn mynediad agored Widening Participation and Lifelong Learning, gan roi llwybr i awduron newydd o golegau Addysg Bellach gyhoeddi eu gwaith am y tro cyntaf. Llwyddodd y fenter i hybu ymgysylltiad â myfyrwyr hefyd, a hynny trwy erthygl ar lais y dysgwyr a ysgrifennwyd ar y cyd. Gallwch glicio yma i ddarllen blog Anita yn ei gyfanrwydd. 

Stori lwyddiannus arall yw effaith y prosiect Heddwch Trwy Iaith: Mesur Casineb Ar Lein dan arweiniad Dr Phoebe Teh (Darllenydd Cyfrifiadura Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam). Wedi ei gynorthwyo gan ein ffrwd Llwybrau at Heddwch dan nawdd Academi Heddwch Cymru, tynnodd y grant y gweithlu o ymchwilwyr, addysgwyr a rhanddeiliaid ehangach ynghyd i archwilio sut y gellir defnyddio iaith fel offeryn i feithrin heddwch a chynhwysiant ac ymgysylltu cymunedau mewn ffordd gadarnhaol.  Ffocws y prosiect oedd trosi gwaith ymchwil yn adnoddau ymarferol y gall cynulleidfa gyhoeddus eang eu defnyddio, ac un o ddeilliannau pwysig y prosiect oedd datblygu’r llyfr, Peace Through Language: Simple Steps to Building a Kinder World Online. Mae’r cyhoeddiad yn cynnig arweiniad ymarferol ar sut y gall cyfathrebu pob dydd helpu i greu amgylcheddau mwy parchus, empathetig a chynhwysol ar lein. Adeiladodd y tîm ar grant hadu CDdC, trwy ddiogelu Dyfarniad Grantiau Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig/Leverhulme i ddatblygu’r prosiect ymhellach. 

Beth sydd gennym mewn golwg 

Egwyddorion allweddol y cynllun yw: 

  • Gweithio gyda phartneriaid allanol i gyd-gynhyrchu deilliannau ymchwil a sbarduno cyfnewid gwybodaeth ar draws gwahanol sectorau 
  • Mabwysiadu egwyddorion ac arferion gwaith rhyngddisgyblaethol o’r cychwyn cyntaf, gan hwyluso partneriaethau sy’n wirioneddol gydweithredol i ddarparu atebion ar gyfer sialensiau cymhleth. 
  • Ystyried a chyfrannu at o leiaf un o saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 

Ymgeisio ar gyfer y cylch yma 

Yn y cylch yma, bydd modd i ni ariannu hyd at 22 prosiect ar gyfer sefydliadau yng Nghymru. Mae hyd at £1,000 ar gael i bob prosiect, a rhaid i’r cynigion fod yn gyson ag un o bedair thema ymchwil, sef:  

  • Astudiaethau Cymru 
  • Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar 
  • Y Dyniaethau, y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol 
  • Llwybrau at Heddwch (dan nawdd Academi Heddwch Cymru). Gall gweithdai Llwybrau at Heddwch sy’n cynnwys partner rhyngwladol wneud cais am hyd at £2,000.  

Mae’r ffurflen gais ar gael trwy glicio yma.  

Darllenwch y Canllawiau i Ymgeiswyr a’r Banc Cwestiynau cyn gwneud cais.  

yn ôl i'r brig