Dyddiad: 5 Chwefror 2025, 11:00-15:00
Lleoliad: Wrecsam ac Ar-lein
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dwyn ynghyd arbenigwyr o sectorau amrywiol i ffurfio Fforwm Arbenigol ar Anabledd yng Nghymru. Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam i gynnal y digwyddiad.
Bydd y Fforwm Arbenigol yn dwyn ynghyd aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar gyda chynrychiolwyr o lywodraethau Cymru a’r DU, diwydiant, a’r trydydd sector. Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau cyflym, sesiynau trafod a rhwydweithio. Cyhoeddir adroddiad cyhoeddus a thaflen ffeithiau ar ôl y cyfarfod. Mae hwn yn gyfle i ymchwilwyr greu effaith a datblygu sgiliau ymgysylltu â pholisi.
Mae bwrsariaethau ar gael i gefnogi ymchwilwyr sy’n mynychu mewn person. Mae presenoldeb ar-lein hefyd ar gael i gefnogi’r rhai na allant deithio.
Os ydych yn ECR yng Nghymru ac yn ymchwilio i anabledd o unrhyw ddisgyblaeth neu sector, cyflwynwch eich mynegiant o ddiddordeb trwy ein ffurflen ar-lein erbyn 13 Rhagfyr 2024, 4pm.
Meini Prawf Dethol
Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig, felly bydd cyfranogwyr yn cael eu dewis yn seiliedig ar:
- berthnasedd yr arbenigedd i bwnc y cyfarfod
- y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda rhanddeiliaid anacademaidd
- gydbwysedd: disgyblaeth, sefydliad, daearyddiaeth, amrywiaeth.
Nid ydym yn disgwyl i gyfranogwyr allu dangos arbenigedd mewn perthynas â phob agwedd ar anabledd yng nghymru; yn hytrach, bydd pob cyfranogwr yn cyfrannu un elfen o arbenigedd at y drafodaeth a fydd, gyda’i gilydd, yn cyfuno i greu darlun mwy cyflawn i siapio llunio polisïau ac ymchwil yn y dyfodol. Bydd pynciau trafod penodol yn cael eu cefnogi gan awgrymiadau a fydd yn cael eu cyflwyno drwy’r ffurflen mynegi diddordeb, yn ogystal â thrwy drafodaethau gyda’r llunwyr polisïau gwahoddedig.
Canlyniadau Bwriadedig
Mae’r canlyniadau bwriadedig o’r fforwm yn cynnwys y canlynol:
- Bod llunwyr polisi allweddol yn cael gwybod am y bylchau mewn ymchwil ac arloesi, ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i lunio penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
- Bod cyfranogwyr o’r byd diwydiant a’r byd academaidd yn cael eu hysbysu o gyfeiriad polisi diweddar / sydd i ddod, er mwyn siapio cwestiynau, ceisiadau a lledaenu ymchwil posibl yn y dyfodol.
- Bod pob cyfranogwr yn cael y cyfle i rwydweithio, gyda photensial cryf ar gyfer cwmni deillio
- Bydd yr adroddiad a’r daflen ffeithiau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gyda thystiolaeth allweddol a gasglwyd yn ystod y fforwm yn gwasanaethu fel briff amhrisiadwy ar gyfer sgyrsiau parhaus rhwng sectorau.
Gallwch gysylltu â’n Tîm Datblygu Ymchwilwyr os oes gennych unrhyw gwestiynau: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk.