Cyflwyno gwobr newydd ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar wrth i’r broses archebu agor ar gyfer y Colocwiwm
Bydd gwobr newydd, a enwyd ar ôl yr Athro Hywel Thomas, sef Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n ymadael, yn cydnabod gwaith ymchwilydd gyrfa gynnar neu dîm ymchwil yng Nghymru.
Cyhoeddir y wobr wrth i’r broses archebu agor ar gyfer y pedwerydd Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar (YGG).
Am y tro cyntaf, byddwn yn dyfarnu Gwobr Hywel Thomas am Ddiwylliant Ymchwil ac Arweinyddiaeth Gymunedol i gydnabod cyfraniad eithriadol sydd naill ai’n hyrwyddo ymchwil gyrfa gynnar, yn gwella diwylliant ymchwil neu’n meithrin amgylcheddau ymchwil cynaliadwy a chefnogol y tu hwnt i yrfa neu sefydliad rhywun ei hun.
Cyhoeddir yr enillydd yn y Colocwiwm, a gynhelir eleni ar 29-30 Mehefin yn Aberystwyth.
Mae tocynnau ar gyfer y colocwiwm ar gael nawr. Cliciwch yma i sicrhau eich lle.
“Cafwyd sawl llwyddiant yn ystod cyfnod Hywel Thomas fel Llywydd y Gymdeithas, yn arbennig ei ffocws ar ddatblygu ymchwilwyr a chreu ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar,” meddai Dr Barbara Ibinarriaga-Soltero, Rheolwr Rhaglen CDdC ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr.
“Mae’n addas felly ein bod ni’n cyflwyno’r wobr newydd hon er anrhydedd iddo fel Llywydd.
“Bydd hon yn nodwedd barhaol o galendr y Gymdeithas ac yn gydnabyddiaeth barhaus o’r rôl y bu iddo’i chwarae o ran rhoi ymchwilwyr gyrfa gynnar yn flaenllaw yn ein gwaith.”