Straeon gyrfa ymchwil: sefydlu gyrfa ymchwil y tu hwnt i’r byd academaidd

Mae’r ystod o yrfaoedd i ymchwilwyr y tu hwnt i’r byd academaidd yn eang ac amrywiol, ac mae galw am fuddion sgiliau ymchwil ymhell y tu hwnt i’r byd addysg uwch.

Mae Gwnaed yng Nghymru: Straeon Gyrfa Ymchwilwyr yn rhaglen a gynhelir ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar gan Rwydwaith Concordat Cymru. Mae’r Rhwydwaith yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o brifysgolion Cymru, ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Ei rôl yw cefnogi ymchwilwyr i ddatblygu eu gyrfa, gwella’r cymorth maent yn ei gael yn ogystal â’u rhagolygon cyflogaeth.

Yr haf hwn, mae Rhwydwaith Concordat Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i ystyried yr ystod amrywiol o yrfaoedd sydd ar gael i ymchwilwyr. Maent wedi’u hanelu at ymchwilwyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt (ond mae croeso i bob un fynychu).

Mae’r holl sesiynau ar-lein yn archwilio straeon gyrfa ymchwil gwahanol. Bydd dwy ohonynt yn cynnwys Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, wrth i ni barhau i ddefnyddio’u profiadau bywyd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.

“Daw llawer o’n Cymrodyr o’r tu allan i’r byd academaidd, gan ddefnyddio eu cefndiroedd ymchwil o fewn diwydiant, y celfyddydau, y byd masnach a’r proffesiynau”, dywedodd Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Mae hynny’n egluro pam ein bod yn gwerthfawrogi’r llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael i ymchwilwyr a pham ein bod mor frwd o ran cefnogi mentrau fel hyn.”

  • Dydd Iau, 21ain Mai, 12:00 tan 13:00, sy’n cynnwys yr Athro Wisia Furmaniak FLSW (Athro Gwadd Anrhydeddus, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd). Archebwch nawr.
  • Dydd Iau, 18fed Mehefin, 12:00-13:00. Bydd y broses archebu’n agor cyn bo hir.
  • Dydd Iau, 9fed Gorffennaf, 12:00-13:00, sy’n cynnwys yr Athro Robert Deaves FLSW (Rheolwr Cynnyrch, Oxa; Athro Anrhydeddus, Prifysgol Birmingham). Bydd y broses archebu’n agor cyn bo hir.

Bydd y sesiynau’n cynnig cipolwg ar yr ystod eang o yrfaoedd sydd ar gael i ymchwilwyr, yn ogystal â’r llwybr academaidd “traddodiadol”. Byddant yn dathlu straeon gyrfa unigol, amrywiol, yn ogystal â dangos y ffyrdd mae sefydliadau addysg uwch yng Nghymru’n cyfrannu at ddatblygu gweithlu medrus a dawnus yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Welsh HEIs contribute to the development of a skilled and talented workforce in Wales, the UK and beyond.

yn ôl i'r brig