Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig

Nod y prosiect hwn yw dod â chyrff a rhwydweithiau ynghyd sy’n rhannu’r gred angerddol y byddai gallu datblygu Astudiaethau Cymreig bywiog a pherthnasol yn cynnig llawer i Gymru, yn ysbrydoli ei phobl ac yn cyfrannu at gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae’r Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig yn gweithio i gofnodi a chydlynu ymchwil, ysgolheictod ac ymgysylltu ym maes Astudiaethau Cymreig, gan ddatblygu cyfleoedd i hyrwyddo a rhannu’r gweithgareddau hyn gyda chynulleidfa ehangach.

Mae cyfnodolyn mynediad agored yn cael ei ddatblygu.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n cydlynu Grŵp Llywio’r Rhwydwaith, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o brifysgolion a chanolfannau ymchwil, yr amgueddfa genedlaethol, y llyfrgell genedlaethol, cyrff treftadaeth a diwylliant, rhwydweithiau llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, a chyhoeddwyr

Cenhadaeth

Mewn partneriaeth glos gyda chyrff ag unigolion eraill sydd â diddordeb, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n ymrwymo i feithrin seilwaith sefydliadol cryf a bywiog i gefnogi, dathlu a hyrwyddo Astudiaethau Cymreig yn eu holl ffurfiau deallusol, gwyddonol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil, ysgolheictod, addysg, cyhoeddi, perfformio a’r cyfryngau i Astudiaethau Cymreig, a thrwy’r rhain i gyd mae’r Gymdeithas Ddysgedig yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyfraniad amhrisiadwy astudio Cymru i’r byd academaidd a chymdeithas sifil.

I ymuno â rhestr bostio Astudiaethau Cymreig, tanysgrifiwch yma.