Menai Owen Jones FLSW yn cael ei chydnabod ar Restr Pinc fawreddog 2026

Mae Menai Owen Jones FLSW wedi cael ei henwi ymhlith y deg uchaf ar Restr Pinc Wales Online 2026.

Mae’r rhestr flynyddol yn cydnabod pobl LHDTC+ sydd wedi chwarae rhan ddylanwadol yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf. Mae’n ‘cydnabod pobl LHDT+ o bob rhan o Gymru sy’n gwneud eu rhan i wneud y byd yn lle gwell’.

Rydym yn falch o ddathlu’r gymuned LHDTC+ a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud ar draws ein Cymrodoriaeth a thu hwnt, ac rydym yn falch iawn dros Menai.

“Rwy’n hapus dros ben ac yn hynod o falch o gael fy nghynnwys ar Restr Pinc WalesOnline eleni,” meddai Menai. “Mae’n anrhydedd sefyll ochr yn ochr â chymaint o unigolion LHDTC+ anhygoel yng Nghymru sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth.”

“Ar adeg pan fo hawliau LHDTC+ yn cael eu herio mewn sawl rhan o’r byd, mae Pride yn parhau i fod yn ddigwyddiad pwysig i atgoffa pobl na ddylid cymryd cynnydd yn ganiataol, a bod llawer o waith i’w wneud o hyd yn y frwydr barhaus i sicrhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+.”

Cafodd Menai ei hethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2025. Hi yw Prif Weithredwr LATCH, elusen canser plant Cymru, ac mae hi hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol profiadol.

Mae hi’n gynghorydd annibynnol i Gomisiwn Senedd Cymru, yn gyd-is-gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, yn eistedd ar Gyngor Sefydliad y Cyfarwyddwyr ac yn Gymrawd yno hefyd, ac enillodd wobr C-Suite Gwobrau Busnes i Fenywod 2025.

I bawb yn y gymuned hon, rydym yn eich cefnogi ac yn eich dathlu y mis hwn a phob amser.

yn ôl i'r brig