Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau yng Nghymru yn cyfrannu at Fil hanesyddol Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Ar 11 Mawrth 2026, fe wnaeth cymunedau Byddar yng Nghymru ddathlu’r ffaith bod Bil hanesyddol Iaith Arwyddion Prydain wedi cael ei basio yn y Senedd. Ymhlith y rhai a oedd yn dathlu oedd grŵp o ymchwilwyr a oedd wedi derbyn cronfa sbarduno gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru i ehangu a chryfhau eu rhwydwaith yn 2023. Darparodd aelodau o’r grŵp hwnnw dystiolaeth hanfodol, arbenigedd a phrofiad bywyd go iawn i gefnogi llunio’r Bil, ochr yn ochr â’r gymuned Fyddar.

Ar y cyd ag Iechyd Byddar Cymru, Cynghrair Celfyddydau a’r Dyniaethau Cymru a’r Ysgol Astudiaethau Uwch, daeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru ag ymchwilwyr, ymgyrchwyr Byddar, artistiaid Byddar, ac arweinwyr cyflawni’r sector cyhoeddus at ei gilydd mewn Fforwm Polisi ym Mhrifysgol Bangor. Dathlodd y digwyddiad basio’r Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain newydd yng Nghymru, gan ddatgelu sut y cyfrannodd ymchwil o ddisgyblaethau’r Celfyddydau a’r Dyniaethau at y cynnydd hanesyddol hwn. Fe wnaeth Mark Isherwood AS gydnabod pa mor bwysig oedd hi bod y drafodaeth hon wedi “dod adref” i Fangor, lle’r oedd cynhadledd bron i ddegawd yn ôl wedi nodi trobwynt yn y daith tuag at y Ddeddf.

Roedd y Fforwm Polisi yn nodi dechrau sgwrs hollbwysig gyda chyrff cyhoeddus pwysig, i’w helpu i ddeall eu rhwymedigaethau newydd yn dilyn pasio’r Ddeddf, ac yn tanlinellu sut y gall arbenigwyr ym maes y Celfyddydau a’r Dyniaethau – ar draws ieithyddiaeth, y gyfraith, llesiant, adrodd straeon, treftadaeth a diwylliant – gefnogi’r camau nesaf hyn. Nododd Dr Rob Wilks mai un o brif rolau ymchwil ym maes y Celfyddydau a’r Dyniaethau ydy “gwneud mynediad yn ystyrlon”.

Fe wnaeth y sesiwn amlinellu rhywfaint o astudiaethau achos o ymchwil ym maes y Celfyddydau a’r Dyniaethau hefyd, sy’n adeiladu atebion ar y cyd â’r gymuned Fyddar. Mae Iechyd Byddar Cymru, sydd yn cael ei ariannu gan AHRC, yn brosiect dan arweiniad pobl Fyddar, sy’n cyd-gynhyrchu atebion ymarferol seiliedig ar dystiolaeth i ystod o faterion sy’n effeithio ar gymunedau Byddar yng Nghymru: mynediad at adnoddau naturiol, profiad cleifion, iaith a chyfathrebu, y gyfraith a hawliau dynol, iechyd meddwl, ac iechyd y cyhoedd. Un ffrwd o’r prosiect mawr hwn yw darganfod, cadw ac archifo tafodieithoedd presennol a hanesyddol Iaith Arwyddion Prydain sydd yn cael eu defnyddio yng Nghymru. Mae’r prosiect yn defnyddio ffyrdd o weithio newydd, ac yn ailfeddwl sut mae ymchwil yn cael ei gynnal a’i ledaenu.

Rhannodd artistiaid Byddar eu profiadau byw fel rhan o’r sesiwn, gan amlinellu sut oedd celf wedi rhoi llais a llinell bywyd iddynt. Dengys ymchwil yn gyson fod ymgysylltu â’r celfyddydau yn gwella iechyd meddwl a llesiant yn sylweddol: i’r gymuned Fyddar, mae’n bwysig dros ben cael diwylliant celfyddydol Byddar bywiog, yn ogystal â mynediad at y byd celfyddydau ehangach. Mae’r ymateb i wyliau diweddar dan arweiniad pobl Fyddar, fel Deaf Gathering, wedi bod yn aruthrol yng Nghymru, ac wedi bywiogi’r gymuned a chynnig gofod diogel a chyfforddus mawr ei angen. Roedd y Fforwm Polisi yn rhan o Ŵyl Fach Deaf Gathering ei hun, dros ddau ddiwrnod, a oedd hefyd yn cynnwys Gŵyl Ffilmiau Iaith Arwyddion Prydain, a gweithgareddau i deuluoedd.The Learned Society of Wales was honoured to support this important event celebrating a landmark moment for Wales. We were excited to continue the conversation at our Languages Symposium with the Celtic Academies Alliance, in Wrexham on 29 April, featuring a panel on Language and Disability.

Roedd yn bleser gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru gefnogi’r digwyddiad pwysig hwn, a oedd yn dathlu carreg filltir arwyddocaol i Gymru. Roeddem yn gyffrous i barhau â’r drafodaeth yn ein Symposiwm Ieithoedd gyda Chynghrair yr Academïau Celtaidd, a gynhaliwyd yn Wrecsam ar 29 Ebrill, a oedd yn cynnwys panel ar Iaith ac Anabledd.

yn ôl i'r brig