Nawdd

Gall noddi Cymdeithas Ddysgedig Cymru fod o fudd i chi neu’ch sefydliad wrth ein cynorthwyo i gwrdd â’n nodau elusennol.

Rydym yn chwilio am unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb mewn noddi, neu gefnogi’n ariannol, fedalau’r Gymdeithas mewn un o’n digwyddiadau proffil uchel, fel y cinio blynyddol (llun uchod).

Mae llawer o fuddion ynghlwm â chefnogi’r Gymdeithas fel hyn, gan gynnwys cyhoeddusrwydd cynyddol, ehangu’ch rhwydweithiau a’r buddion treth o roi i elusen.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch manteision noddi ar eich cyfer chi neu’ch sefydliad, yn ogystal â’r cyfleoedd i noddi sydd ar gael gan y Gymdeithas, cysylltwch â’n Prif Weithredwr, Olivia Harrison, a fyddai’n hapus i drafod hyn ymhellach.

yn ôl i'r brig