Gadael rhodd yn eich ewyllys

Helpwch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Gymrodyr. Gadewch gymynrodd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae rhoddion o bob maint yn helpu’r Gymdeithas i ddathlu rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil, hybu dysg a chyfrannu at ddyfodol Cymru a’r byd.

Mae pob cymynrodd yn werthfawr i ni ac yn cael effaith enfawr ar ein gwaith.

> Gadael Cymynrod – lawrlwytho taflen

legacy

Ffyrdd gwahanol i roi

Mae llawer o ffyrdd gwahanol i adael rhodd yn eich ewyllys. Efallai yr hoffech ystyried y Gymdeithas, a byddai croeso i unrhyw rodd y dewiswch ei roi. Gallwch roi:

  • Cyfran o’ch ystâd (a elwir yn gymynrodd weddilliol)
  • Swm penodol o arian (cymynrodd ariannol)
  • Tir, adeiladau neu eiddo arall

Os ydych chi eisoes wedi gwneud ewyllys, mae’n hawdd iawn ychwanegu ati (a elwir yn godisil).

Ar gyfer ystadau sy’n fwy na’r trothwy treth etifeddiaeth o £325,000, bydd mantais i’ch ystâd o beidio â gorfod talu treth o 40% ar eich rhodd i’r Gymdeithas.

Mae Remember A Charity yn cynnig adnoddau defnyddiol a dolenni at ragor o wybodaeth a allai helpu.

Siaradwch gyda ni

Os ydych chi’n meddwl am adael cymynrodd ac yn awyddus i drafod hyn yn anffurfiol, cysylltwch ag Amanda Kirk:

Ffurflen addunedu cymynrodd

Os ydych chi’n bwriadu gadael cymynrodd i’r Gymdeithas, byddem yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i ni. Bydd hyn yn ein helpu i gynllunio at y dyfodol, ac yn cynnig cyfle i ni ddiolch i chi. Wrth gwrs, nid yw adduned o’r fath yn eich rhwymo’n gyfreithiol a byddem yn cadw eich gwybodaeth yn gwbl gyfrinachol.

Os hoffech roi gwybod i ni, cwblhewch y ffurflen hon.