Cronfa Gymorth i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar

Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, nid yw llawer o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar bellach yn gallu cael mynediad at gyllid i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Y llynedd, drwy ddefnyddio rhoddion hael gan ein Cymrodyr, fe wnaethom ddarparu cefnogaeth hanfodol i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar (ECR) na fyddai fel arall, yn gallu mynychu cynadleddau i gyflwyno eu gwaith, datblygu eu proffiliau academaidd, ac ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol.

Eleni, rydym yn parhau i ofyn i chi gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru a chryfhau dyfodol ymchwil yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio pob rhodd a dderbynnir i gefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yng Nghymru yn uniongyrchol, drwy fwrsariaethau teithio, cymorth ariannol ar gyfer y rhwydweithiau a’r digwyddiadau maen nhw’n eu trefnu, neu drwy gymorth arall wedi’i dargedu.

Mae eich cefnogaeth ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar drwy’r gronfa hon yn helpu i gael gwared ar rwystrau i ymchwilwyr sy’n wynebu cyfyngiadau ariannol, ac yn eu galluogi i ennill cydnabyddiaeth a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Cliciwch yma i gyfrannu i’r gronfa hon. Croesewir unrhyw swm. Bydd y rhai sy’n rhoi dros £250 yn derbyn diweddariad personol ar sut mae eu cyfraniad wedi cael ei ddefnyddio.

Y dyddiad cau ar gyfer rhoi rhoddion yw diwedd Gorffennaf 2026.

Bydd Grŵp Cynghorol ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr yn penderfynu wedyn, yn ystod yr haf, ar y ffyrdd gorau o ddefnyddio’r arian i gefnogi Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar yng Nghymru.

Yn yr hydref, byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar am y cymorth sydd ar gael. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn ac am gyfleoedd eraill, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.

Darllennwch flog Dr William Perry i weld sut y gwnaeth ein bwrsariaeth ECR ei helpu i roi prif anerchiad yng nghynhadledd llawr gwlad Rhwydwaith Ecoleg ac Esblygiad Cymru. Dyma enghraifft bwerus o’r gwahaniaeth y gall eich cymorth ei wneud.

yn ôl i'r brig