Y Fonesig Elan Closs Stephens yn dod yn Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Yr Athro Elan Closs Stephens yw Llywydd fenywaidd gyntaf Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Dechreuodd yn ei swydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar 20 Mai.
Cafodd y Fonesig Elan ei geni yng Ngwynedd. Hi yw un o weision cyhoeddus mwyaf nodedig Cymru, gyda phrofiad helaeth yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth ac addysg uwch. Ymhlith ei rolau niferus, mae hi’n Gomisiynydd Etholiadol Cymru ar hyn o bryd, bu’n Gadeirydd Dros Dro i’r BBC rhwng 2023 – 2024, ac mae hi’n Athro Emerita mewn Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle mae hi hefyd yn Ddirprwy-Ganghellor.
Wrth dderbyn ei rôl fel Llywydd, cyfeiriodd y Fonesig Elan at gryfderau unigryw’r Gymdeithas:
“Mae gennym Lywodraeth newydd sy’n addo dechrau newydd. Hoffwn i’r Llywodraeth honno, ac yn wir busnes a diwydiant a chyrff cyhoeddus, fod yn ymwybodol o’r cyfoeth sydd ar gael iddynt ac i ddefnyddio ein Cymrodoriaeth fel adnodd i wella bywyd Cymru.
“Un diben sydd i’n holl weithgarwch. Gwneud Cymru, yn ei bywyd gwyddonol, cymdeithasol a diwylliannol, yn fwy cynaliadwy, yn fwy grymus, ac yn fwy uchelgeisiol. A thrwy wneud hynny, rydym hefyd yn dathlu cryfder deallusol ein cenedl.”
Meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Rydym yn gyffrous ein bod yn mynd i fod yn gweithio mor agos gyda’r Fonesig Elan yn y dyfodol.
“Mae’r chwe blynedd ddiwethaf, gyda Hywel Thomas wrth y llyw, wedi gweld twf mawr yn y Gymdeithas, gyda llawer o arloesedd a chynnydd.
“Mae’r cyfle i adeiladu ar hynny, gyda’r safbwyntiau unigryw, y sgiliau a’r cysylltiadau y mae’r Fonesig Elan yn eu cyflwyno, yn golygu ein bod yn hyderus y bydd y Gymdeithas yn parhau i chwarae rhan weithgar ym mywyd dinesig ac academaidd Cymru.”
Fel Academi Genedlaethol Cymru, mae’r Gymdeithas yn cynnwys 700 o Gymrodyr, academyddion, ymchwilwyr ac arweinwyr o fywyd dinesig a diwylliannol Cymru. Mae’n hyrwyddo ac yn datblygu cymuned ymchwil Cymru, ac yn cyfrannu at y trafodaethau am y polisïau sy’n effeithio ar Gymru.
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Hywel Thomas FLSW, sydd wedi bod y Llywydd ers 2020:
“Rwyf wedi mwynhau fy amser fel Llywydd Cymdeithas Ddysgiedig, ac rwy’n gwybod y profiad gwych sydd yn wynebu’r Fonesig Elan.
“Mae Cymru, y byd a’r amgylchedd ymchwil ac arloesi i gyd yn wynebu heriau. Felly, ni allai’r Gymdeithas obeithio am rywun gyda mwy o brofiad a doethineb i helpu i’w llywio drwy’r blynyddoedd sydd i ddod.
“Rwy’n dymuno’r gorau iddi.”