Yr Athro John Rowlands FLSW (ob. 24 Chwefror 2015)

Beth sydd i’w ddweud am rywun a ddywedodd gyn lleied amdano’i hun?  Hawdd crynhoi ei yrfa, heb gyffwrdd â’r dyn.  Fe’i ganed ar fferm yn Nhrawsfynydd, ac o Ysgol Ramadeg Blaenau Ffestiniog, fel cynifer o’i flaen, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru , Bangor, lle y graddiodd yn BA ac yn MA yn y Gymraeg.  Yn sgil cwblhau DPhil yn Rhydychen, dilynodd yrfa academaidd yng Nghymru, yn Abertawe a’r Drindod, Caerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, cyn cyrraedd Aberystwyth yn 1975.  Dyfarnwyd cadair bersonol iddo yn 1996, ac ymddeolodd yn 2003. Treuliodd y blynyddoedd wedi hynny yn cadw gwesty’r Goeden Eirin yn y Groeslon, lle byddai ef a’i wraig, Luned, yn denu gwesteion o bob cwr o’r byd gyda chyfuniad o awyr iach, bwyd a gwin amheuthun a silffeidiau o lyfrau.

Ar sgwrs – ac fe gawsom sgyrsiau hirfaith dros y ffôn wedi iddo ymddeol – prin y dysgai rhywun ddim amdano.  Digon o leisio barn, yn sicr, yn ei ffordd ddiymhongar, a mymryn o anghydweld boneddigaidd ar brydiau; ond prin fod dim a ddatgelai unrhyw beth dyfnach (na mwy arwynebol, yn wir) na hynny. Nid un am anecdotau a throeon trwstan ac atgofion oedd John; ni rannai fanylion am yr hyn yr oedd yn ei ddarllen.  Ac, yn bendant, ni fynnai sôn am ei waith ei hun.  Gellid synhwyro’r swildod a’r anesmwythyd i lawr y lein pan holwn am yr hyn a oedd ganddo ar y gweill.  ‘O, rhyw adolygiad, wyddoch chi,’ Dim byd mawr … Ond beth amdanoch chi?’

Stori wahanol oedd hi ar bapur.  Mewn print, roedd yn ddieithriad yn fyrlymus a ffraeth a chwaraeus.  Lluniodd y peth tebycaf yn y Gymraeg i nofel yn null yr Angry Young Men pan oedd eto’n fyfyriwr, Lle Bo’r Gwenyn (1960), ac aeth ymlaen mewn chwe nofel arall i greu cymeriadau ansad a chymhleth, digrif a thrasig.  Creodd enw iddo’i hun yn ogystal fel beirniad.  Pwy arall a fyddai wedi meddwl troi traethawd DPhil am Salbriaid Llyweni yn llith Gramscïaidd?  Ymdrech barhaus John – ac ef oedd y cyntaf i weld yr angen heb sôn am ymateb iddo – oedd herio’r hyn a alwai’r ‘pietás boneddigaidd’ mewn beirniadaeth lenyddol Gymraeg: parch at draddodiad, llên fel crefft, y cyswllt rhwng llên a chrefydd, statws noli me tangere y canon, y llenorion hynny sy’n annwyl gan eu cenedl.  Byddaf yn cael gwefr neilltuol o hyd wrth rannu un dyfyniad o’i eiddo gyda’m myfyrwyr, a gweld y geiniog yn disgyn: ‘buasai’n iechyd i ni yng Nghymru fynd dros ben llestri a chael gwared ar awduron, oherwydd gallant fod yn gryn niwsans.  Maen nhw’n aml yn sefyll rhwng y darllenydd a’r gwaith.’

Ni chefais ei glywed yn darlithio, ond mae’r rhai a wnaeth yn medru dynwared ei osgo: ei ben ar oleddf ar ei ddwrn.  Paratôi bob gair yn ofalus, ond yr adegau mwyaf cofiadwy, meddir, oedd pan grwydrai oddi ar y sgript.  Nid ar chwarae bach y dywedodd unwaith y byddai rhywbeth mawr o’i le petai’n dal i arddel yr un syniad am ddarn o lenyddiaeth am fwy na phum mlynedd yn olynol.

Y seminar a’r dosbarth tiwtorial – a llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol i raddau hefyd – oedd ei gynefin.  Yno y câi feddwl ar ei draed a dadlau a dilyn trywydd annisgwyl.   Yno y gwelir heddiw ei ddylanwad ar ddwsinau o’i fyfyrwyr sydd wedi mynd yn academyddion ac yn llenorion eu hunain neu sydd wedi mynd i fyd y cyfryngau.  Mae un stori’n dweud y cyfan, efallai.  Pan alwyd ar gydweithiwr imi i ddweud gair o deyrnged ar y teledu a’r radio ddiwrnod ei farw, 24 Chwefror, roedd y cyfwelydd a’r tîm cynhyrchu a oedd gyda hi i gyd wedi dysgu wrth draed John.

Collodd y Gymdeithas Gymrawd.  Collodd y byd cyhoeddi un a allai droi ei law at adolygiad ar gyfrol o ganu caeth a thŷ bwyta a gwinoedd o’r Byd Newydd.  Collodd yr Eisteddfod feirniad bytholwyrdd a’r adrannau Cymraeg un y cododd ei enw bob tro yr oedd sôn am gael barn gytbwys arholwr ar draethawd ymchwil.  Collasom bob un ffrind.

Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Luned, Huw, Dyfed, Sioned a’r teulu cyfan.