Cynhadledd Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar

Yr Argyfwng Hinsawdd ac Anghydraddoldeb Cymdeithasol: Ymatebion gan ymchwilwyr yng Nghymru

Cynhaliwyd ein Cynhadledd Ymchwil ar-lein gyntaf ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar ar 26 Tachwedd, 2021. Roedd y digwyddiad yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac anghydraddoldebau cymdeithasol, ac yn annog deialog rhyngddisgyblaethol ymhlith ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.

Dilynodd ein digwyddiad yr uwchgynhadledd hinsawdd COP 26 yn Glasgow, a’i gysylltu â COP Cymru (Wythnos Hinsawdd Cymru), gan arddangos gwaith mwy nag 20 o Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar. Denodd Galwad y Gynhadledd gynigion gan holl brifysgolion Cymru, ac roedd gwaith y siaradwyr yn rhychwantu disgyblaethau ar draws STEMM, y dyniaethau, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol. Roeddem yn falch hefyd o gael cyfranogiad Dr Ben Raynor, Uwch Reolwr Ymchwil Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), a roddodd drosolwg o Weledigaeth CCAUC ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru.

Roedd y rhaglen undydd yn cynnwys sesiwn cyweirnod ar Climate Change: The potential and the challenges for cross-disciplinary responses gan yr Athro Milja Kurki, a sesiwn brynhawn ar The Role of Universities in Facilitating Academic Advocacy and Activism in the Climate and Ecological Emergency gan Dr Aaron Thierry. 

Trefnwyd cyfres o ‘sgyrsiau ysgafn’ mewn chwe sesiwn â thema fel a ganlyn: 

  • Sesiwn 1 – Rhyng-gysylltiad, Cyfranogiad a Gwneud Penderfyniadau: Dulliau o Weithredu’n Fyd-eang

Siaradwyr: Dr Amaya Querejazu | Dr Caer Smyth | Dr Feng Mao 

Cadeirydd: Yr Athro Ambreena Manji 

  • Sesiwn 2 – Dysgu o Brofiadau Cymunedau: Rhagweld Posibiliadau’r Dyfodol

Siaradwyr: Dr Hannah Hughes | Dr Nguyen Chien | Dr Luci Attala 

Cadeirydd: Yr Athro Michael Woods 

  • Sesiwn 3 – Iaith a Chyfieithu: Problemau Cynrychiolaeth a Chyfiawnder Cymdeithasol

Siaradwyr: Dr Ben Ó Ceallaigh | Dr Rhianedd Jewell | Dr Joanna Chojnicka 

Cadeirydd: Yr Athro Mererid Hopwood 

  • Sesiwn 4 – Ymagweddau Cadarnhaol at Wastraff  

Siaradwyr: Katherine Stewart | Dr Alvin Orbaek White | Dr Mehroosh Tak 

Cadeirydd: Yr Athro Andrew Henley 

  • Sesiwn 5 –  Economeg Newid: Dulliau Newydd o fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd

Siaradwyr: Dr Siobhan Maderson | Jamila La Malfa-Donaldson 

Cadeirydd: Dr Cara Reed 

  • Sesiwn 6 – Systemau Ynni: Technolegau a Dulliau Newydd

Siaradwyr: Dr Simon Middleburgh | Marina Kovaleva | Dr Rhiannon Chalmers-Brown 

Cadeirydd: Yr Athro Karen Henwood 

Fe wnaethom gau’r gynhadledd gyda thrafodaeth bord gron fanwl: Will technologies designed to decarbonise homes exacerbate or reduce social inequalities?  

Siaradwyr: Dr Kate O’Sullivan | Dr Rachel Hale | Dr Elli Nikolaidou | Dr Deborah Morgan 

Cadeirydd: Jonathan Adams, Jonathan Adams + Ptns Architects 

Diolch i’r holl siaradwyr a gyflwynodd eu gwaith arloesol, a’n Cymrodyr ac aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar a drefnodd y digwyddiad. Roedd y trafodaethau a gynhaliwyd drwy gydol y dydd yn ddiddorol iawn, ac rydym yn gwerthfawrogi ymgysylltiad mynychwyr â’r gwahanol sesiynau â thema. Roedd yn gynhadledd lwyddiannus, gyda mwy nag 80 o bobl yn bresennol.     

Adborth gan aelodau o’n Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar oedd yn siarad yn y digwyddiad:  

“Gwrando ar y siaradwyr eraill oedd y profiad mwyaf ystyrlon i mi.”

“Roeddwn wrth fy modd yn cyfuno llenyddiaeth mewn ymchwil hinsawdd, a chyflwyno gwybodaeth berthnasol i’r mynychwyr. Roedd rhai enghreifftiau wedi’u neilltuo ar gyfer y DU, ac roeddwn yn hapus i ateb cwestiwn gan y gynulleidfa.” 

“Y cyfle i weithio gyda chydweithwyr o ddisgyblaethau eraill ar y drafodaeth bord gron.”

“Roedd y gynhadledd yn caniatáu i mi siarad am fy ngwaith i gynulleidfa ryngddisgyblaethol ehangach, ac roedd yn ddiddorol iawn dysgu am yr ymchwil sy’n cael ei chynnal ar newid yn yr hinsawdd o wahanol ddisgyblaethau. Roedd yn ddefnyddiol ar gyfer rhwydweithio hefyd.”

“Yn amlwg, roedd yn grêt i mi gael cyfle i ledaenu fy ymchwil fy hun ond yn fwy na hynny, roedd gwrando ar ymchwilwyr eraill hyd yn oed yn well. Roedd yn ddiddorol gweld lle mae fy ymchwil yn rhannu tebygrwydd ag ymchwil arall a, hefyd, lle mae’n wahanol. Rwyf wedi bod yn styc ar agwedd benodol ar ddamcaniaeth, ond soniodd ymchwilydd arall am rywfaint o lenyddiaeth a fydd yn fy helpu’n fawr. Nid oedd ei phwnc yr un fath â fy un i, ac efallai bod angen i mi fod wedi gwrando ar ymchwil rhyngddisgyblaethol er mwyn bod wedi cael y mewnbwn hwn.”