Medal Menelaus 2019

Eleni, dyfarnwyd y fedal i’r Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe, am ei waith arloesol yn efelychu problemau mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn defnyddio dulliau cyfrifiannu.

Dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, mae’r Dull Elfen Derfynedig wedi trawsnewid gweithdrefnau datrys ym mhob cangen o beirianneg bron, drwy ddisgrifio ymddygiad strwythurau a systemau mewn ffurf cyfrifannu wahanol, ac mae hefyd wedi cael effaith sylweddol ar nifer o feysydd gwyddonol, er enghraifft peirianneg fiofeddygol a’r gwyddorau bywyd. Dywedodd:

“Oherwydd apêl ryngwladol modelu cyfrifiannu, mae’r rhan fwyaf o fy ngweithgareddau ymchwil wedi cynnwys prifysgolion a sefydliadau diwydiannol yn fyd-eang. O ganlyniad, y Fedal hon yw un o’r ychydig ddyfarniadau rwyf i wedi’u derbyn o Gymru, ond o ystyried y parch a roddir i wyddoniaeth a thechnoleg yn y genedl, mae’n un sy’n uchel iawn ar fy rhestr o gyflawniadau.

Er bod yr hanner can mlynedd ddiwethaf o fodelu cyfrifiannu wedi profi’n gyffrous a boddhaol, rwyf i’n hyderus y bydd meysydd gwyddonol sy’n datblygu’n sicrhau y bydd y dyfodol yn fwy heriol fyth. Rwyf i’n credu y dylem ni sydd wedi gweithio, ac sy’n parhau i weithio, ym maes modelu cyfrifiannu deimlo fod y profiad yn anrhydedd.”