Luke Sloan: Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes 2019

Dyfarnwyd y medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Dyfarnwyd y medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Cydnabuwyd Dr Sloan am ei waith sydd wedi edrych ar sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Twitter, i ddatblygu ymchwil cymdeithasol. Mae ei waith yn y maes yn arbennig oherwydd ei fod yn mynd y tu hwnt i ofyn pryd y gall Twitter ddweud rhywbeth wrthym am y byd i holi cwestiynau mwy cymhleth am foeseg a methodoleg yr ymchwil hwn.

Dywedodd Dr Sloan:
“Rwyf i’n teimlo’n wylaidd yn derbyn y wobr hon. Mae’n syndod bendigedig ac rwyf i’n gwerthfawrogi’n fawr”.