Medal Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes Dillwyn 2017

Dyfarnwyd Medal Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes Dillwyn i Dr Rhiannon Evans, Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan DECIPHer, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc, gan gynnwys hunan-anafu ac atal hunanladdiad.