Medal Hugh Owen 2023: Yr Athro Tom Crick

Mae Tom Crick MBE FLSW FAcSS yn Athro Addysg Ddigidol a Pholisi ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau academaidd ym maes ymchwil/polisi/ymarfer gyda phwyslais ar ddulliau ac effeithiau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion, ac mae wedi arwain y prif gwricwlwm a diwygiadau cymwysterau gwydoniaeth a thechnoleg dros y 10+ mlynedd diwethaf.

Cafodd ddyfarniad MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017 am “wasanaethau i gyfrifiadureg a hyrwyddo addysg cyfrifiadureg” a chafodd ddyfarniad Gwobr Ymgysylltiad Cyhoeddus ac Effaith BERA 2020 am ei waith diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru.

“Roedd yn fraint i mi gael gwobr Medal Hugh Owen eleni gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n adlewyrchu pwysigrwydd amrywiaeth y gwaith effeithiol ar draws maes ymchwil, polisi ac ymarfer addysgiadol. Mae dyfnder y gwaith yn allweddol i Gymru wrth i ni weld y prif ddigwyddiadau yn y system addysg yn parhau i ddod i’r amlwg a datblygu.“

Yr Athro Tom Crick