Gwybodaeth ymuno

Defnyddio Zoom

Gallwch ddefnyddio Zoom drwy eich cyfrifiadur, tabled neu ffôn.  Os ydych yn bwriadu gwylio sesiwn gyfan, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio tabled neu gyfrifiadur gan fod y sgriniau gymaint yn fwy. 

Dilynwch y ddolen ar gyfer y sesiwn. 

Os nad oes gennych chi ap Zoom ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur, cliciwch ar y ddolen.  Bydd hyn yn mynd â chi’n syth i’r sesiwn. Os ydych wedi defnyddio Zoom o’r blaen ac wedi llwytho’r ap, agorwch yr ap a theipio’r cod yn y blwch gwag.  Bydd hyn hefyd yn mynd â chi’n syth i’r sesiwn.

Os nad yw’r sesiwn wedi cychwyn, bydd hyn yn glir ar y sgrin. Peidiwch â phwyso dim byd. Bydd y sesiwn yn dechrau’n awtomatig.

Bydd cadeirydd y sesiwn yn egluro sut mae pob sesiwn yn gweithio ar y cychwyn.  Bydd hefyd yn egluro sut mae modd gofyn cwestiynau a sut i ddefnyddio’r botwm Q&A sydd wedi’i leoli ar waelod y sgrin.

Byddwn yn defnyddio’r fformat Webinar.  Mae hyn yn golygu bod y sesiwn yn debyg iawn i ddarlith.  Fe fyddwch yn gallu gweld y panel / darlithydd ac unrhyw sleidiau / gyflwyniad.  Ni fydd modd i chi weld na chlywed unrhyw un arall sy’n gwrando a gwylio, ac ni fydd modd iddyn nhw eich gweld na’ch clywed chi.  Bydd cyfle ar ddiwedd y sgwrs / darlith i ofyn cwestiynau, a dylech wneud hyn drwy glicio ar y botwm Q&A ar waelod y sgrin a theipio’ch cwestiwn.

Cyfieithu ar a pryd

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael o Gymraeg i Saesneg

  • Os yw rhywun eisiau gwrando ar y cyfieithiad dylent glicio’r symbol glôb ar y bar ar waelod y sgrin Zoom, a dewis ENGLISH (byddant yn clywed naill ai’r cyfrannwr yn siarad Saesneg neu’r cyfieithydd ar y pryd os yw’r cyfrannwr yn siarad Cymraeg). Cofiwch fod oedi o ychydig eiliadau cyn i’r cyfieithu ar y pryd ddod trwodd felly oedwch ychydig cyn dechrau siarad.

Recordio

Bydd y sesiynau yn cael eu recordio, a’i darlledu’n fyw ar blatfform AM. Felly, os oes unrhyw un yn cael problemau o ran cysylltu neu gyda’r cyfieithu ar y pryd, gallant ddilyn y sesiwn arsianel y Gymdeithas ar blatfform AM (cofiwch, serch hynny, na fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau trwy AM).

O ran cwestiynau:

  • I ofyn cwestiwn, bydd rhaid ddefnyddio’r botwm Q&A. Yno gallwch naill ai deipio eich cwestiwn yn llawn neu ofyn am gael gofyn y cwestiwn ar lafar. Bydd yr hwyluswyr Zoom wedyn yn troi meicroffon y sawl sydd am ofyn y cwestiwn ymlaen, ond nid eu camera.
  • Bydd modd defnyddio ‘Chat’ hefyd – ond nid i ofyn cwestiynau i’r panelwyr.
  • Bydd modd i’r gynulleidfa glicio’r botwm ‘upvote’, fel bod cwestiynau poblogaidd yn cael eu blaenoriaethu.

Cofiwch gysylltu Sarah neu Gruffydd oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau pellach.