Cynorthwyydd Cefnogi Tîm: Cyfle am Swydd
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Tîm deinamig a brwdfrydig i gefnogi ein sefydliad sy’n tyfu ar adeg gyffrous. Rydym yn chwilio am gymorth amser llawn ond yn fodlon ystyried trefniant rhannu swydd, oriau hyblyg neu lai o oriau ar gyfer ymgeisydd addas.
- Gallwch lawrlwytho ein pecyn swyddi i gael gwybodaeth lawn am y rôl a’r broses ymgeisio
- Cais am gyflogaeth
Bydd y rôl hon, sydd yn cael ei rheoli gan Glerc y Cyngor, yn gweithio ar draws ein tîm amrywiol i gefnogi amrywiaeth eang o bobl, rolau a thasgau – o gyllid i ddigwyddiadau, gan gefnogi ein bwrdd Ymddiriedolwyr a’r Prif Swyddog Gweithredol, i weithio gyda chynghorwyr polisi a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol. O’r herwydd, mae’n cynnig profiad cyffredinol gwych i rywun sy’n awyddus i ddatblygu amrywiaeth o lwybrau gyrfa.
Mae pedwar prif agwedd i’r rôl hon:
- Cefnogi staff uwch a gweithredol
- Rheoli’r gronfa ddata
- Cefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau
- Cefnogi cyfathrebu
Rydym eisiau penodi rhywun hyblyg, cyfeillgar a brwdfrydig, sydd â’r awydd i ddysgu ac agwedd ragweithiol at ddod o hyd i atebion i gefnogi ein tîm, gan gynnwys ar lefel ddigidol ac awtomataidd. Bydd hyn yn cyfrannu at ein diwylliant o newid a gwelliant parhaus. Rydym yn dîm cymdeithasol a chefnogol hefyd, ac rydym yn chwilio am rywun sy’n awyddus i ddod yn rhan annatod o hyn, gan gymryd rhan weithredol ym mhob cyfarfod tîm a chyfleoedd hyfforddi.
Yn ddiweddar mae’r Gymdeithas wedi canolbwyntio’n fwy pendant ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dymunwn sicrhau bod y Gymdeithas yn elwa o’r ystod ehangaf o ddoniau a safbwyntiau, ac rydym wrthi’n trwytho hynny i mewn i’n gwaith.
Dymunwn fod yn Gymdeithas amrywiol gan adlewyrchu cymdeithas amrywiol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymdeithas yn un groesawgar ac yn gynhwysol gan annog ceisiadau gan grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.
- Gallwch lawrlwytho ein pecyn swyddi i gael gwybodaeth lawn am y rôl a’r broses ymgeisio
- Cais am gyflogaeth
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 09.00, 26 Medi 2022.