Pontio Teg tuag at Sero Net Cymru: Galwad am Dystiolaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Galwad am Dystiolaeth ar gyfer llywio’r modd y datblygir llwybr datgarboneiddio Cymru tuag at Sero Net erbyn 2050. Mae’r ymgynghoriad hefyd yn darparu cam cychwynnol tuag at y posibilrwydd o ddatblygu Fframwaith Pontio Teg i Gymru, a gyhoeddir yn 2023.
Yn Cymru Sero Net (2021), ailddatganodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i gyflawni ‘pontio teg’ oddi wrth economi tanwyddau ffosil y gorffennol tuag at ddyfodol newydd carbon isel. Wrth inni symud tuag Gymru lanach, gryfach a thecach, bydd cyflawni pontio teg yn golygu na fyddwn yn gadael neb ar ôl.
Bydd y Llywodraeth yn datblygu dealltwriaeth glir o effeithiau’r newid, pa un a fyddant yn gadarnhaol neu’n negyddol, ynghyd â dealltwriaeth glir o sut y gellir sicrhau y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu dosbarthu’n deg mewn cymdeithas. Wrth wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i ddysgu gwersi ar sail y gorffennol ac adeiladu dyfodol i Gymru a fydd yn cefnogi economi lesiant.
Mae’r galwad hwn am dystiolaeth yn bwysig o ran sicrhau ein bod yn seilio ein cynlluniau ar dystiolaeth gadarn. Bydd y dystiolaeth a gesglir yn llywio’r modd y datblygir llwybr datgarboneiddio Cymru tuag at Sero Net erbyn 2050. Bydd hefyd yn darparu cam cychwynnol tuag at y posibilrwydd o ddatblygu Fframwaith Pontio Teg i Gymru, a gyhoeddir yn 2023.
Elfennau allweddol y Galwad hwn yw ceisio tystiolaeth er mwyn:
- nodi arferion gorau, pa le bynnag y gellir dod o hyd iddynt, ar gyfer rhoi Pontio Teg ar waith yng Nghymru;
- nodi’r effeithiau a’r cyfleoedd ar draws ein cymdeithas a’n heconomi;
- nodi’r seilwaith a’r cymorth sydd eu hangen arnom i sicrhau pontio teg.
Bydd y Fframwaith Pontio Teg, fel y’i gwelir ar hyn o bryd, yn cynnig dull strategol o gyflawni pontio teg a fydd yn gyfiawn ac yn gynhwysol ac wedi’i adeiladu ar weledigaeth a ysgogir gan ‘lesiant’ gwell i gymdeithas, ynghyd â dull strategol o weithio tuag ar gyflawni’r nodau datblygu cynaliadwy, gyda’r egwyddor ganllaw na fydd ‘neb yn cael ei adael ar ôl’. Bydd y Fframwaith yn cynnwys tair prif elfen, sef:
- adeiladu ar y sylfaen ymchwil a thystiolaeth er mwyn deall yr effeithiau negyddol posibl ar wahanol bobl a grwpiau a’r cyfleoedd i leihau anfanteision;
- hyrwyddo integreiddio ar draws ein prosesau penderfynu, sectorau a chynlluniau; ac
- ymwreiddio’r arfer o ymgysylltu â’r cyhoedd, busnesau a chymunedau.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn a thystiolaeth ac yn awyddus hefyd i glywed am astudiaethau achos ac enghreifftiau o arloesi ac arferion gorau. Mae’r ymgynghoriad ar gael yma.
Yn benodol, maen nhw’n awyddus i ystyried:
i) Yr effeithiau a’r cyfleoedd i sectorau allyriadau gan gynnwys:
- Adeiladau Preswyl
- Allyriadau cartrefi
- Cludiant
- Diwydiant a busnes
- Gwres a phŵer
- Amaethyddiaeth
- Defnydd tir a choedwigaeth
- Gwastraff
- Y sector gyhoeddus
ii) Cefnogaeth i drawsnewid cyfiawn o ran
- Medrau
- Isadeiledd cymdeithasol
- Y Trydydd Sector, Gwirfoddolwyr a Chymunedau
- Cyllid
Os hoffech gyfrannu at ymateb y Gymdeithas, cysylltwch â Dr Sarah Morse am wybodaeth bellach.