Penodi Cynghorwyr Arbennig

Er mwyn sicrhau bod y Gymdeithas yn cynyddu ei chyrhaeddiad a’i dylanwad, rydym wedi penderfynu creu dwy rôl Cynghorydd Arbennig newydd mewn dau faes sydd o ddiddordeb arbennig – (i) Materion Rhyngwladol a (ii) Ymchwil ac Arloesi.

Hoffem benodi Cymrawd i bob rôl, sydd yn gallu darparu cyngor arbenigol i’r Cyngor, eiriol dros flaenoriaethau’r Gymdeithas, a datblygu ein perthnasau â rhanddeiliaid eraill.

Byddwn yn penodi’r Cynghorwyr Arbennig am flwyddyn i ddechrau, gyda’r posibilrwydd o adnewyddu hyn am hyd at bedair blynedd arall.

Disgrifiadau o’r rôl

Proses ymgeisio/penodi

Anfonwch fynegiant o ddiddordeb a CV cryno (cyfanswm o ddwy dudalen ar y mwyaf) yn amlinellu eich diddordeb a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl, at Amanda Kirk (akirk@lsw.wales.ac.uk).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 2 Rhagfyr 2020

Cysylltwch gydag Amanda hefyd, os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol gyda’r Llywydd am y rôl.

Bydd y Pwyllgor Gweithredol yn adolygu ceisiadau ac yn cyfweld ymgeiswyr sydd yn cyrraedd y rhestr fer. Yna, bydd y Pwyllgor yn argymell penodeion i’r Cyngor, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.