Siarter Brenhinol

Yn ôl ym mis Mehefin eleni, cymeradwyodd Ei Mawrhydi y Frenhines Orchymyn y Cyfrin Gyngor yn dyfarnu Siarter o Ymgorfforiad i’r Gymdeithas. Daeth y Siarter Brenhinol i rym yn gyfreithiol gyda gosod y Sêl Fawr ar gopi memrwn a seliwyd gan Swyddfa’r Goron yn Nhŷ’r Arglwyddi ddiwedd mis Medi.

Diben ymgeisio am statws siartredig oedd codi proffil, enw da a hygrededd y Gymdeithas Ddysgedig a’i Chymrodyr.

Mae sicrhau Siarter Brenhinol yn gyflawniad pwysig i gymdeithas ifanc yn y cyfnod byr hwn a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yw’r ail gorff yn unig yng Nghymru i sicrhau’r gydnabyddiaeth a’r anrhydedd hwn ers datganoli.

Mae dyfarnu Siarter Brenhinol yn ddigwyddiad cymharol brin ac fel arfer caiff ei gadw ar gyfer cyrff proffesiynol, elusennau neu brifysgolion blaenllaw, sydd â hanes cryf o gyflawniad ac sy’n ddiogel yn ariannol fel y BBC, y British Council a’r Cynghorau Ymchwil a Chwaraeon. Ers y 13eg ganrif, dim ond tua 900 o ddyfarniadau sydd wedi’u gwneud.

Mae Siarter Brenhinol o Ymgorfforiad yn cyflwyno personoliaeth gyfreithiol annibynnol i gymdeithas gan helpu i ddiffinio ei hamcanion, ei chyfansoddiad a’i phwerau i lywodraethu ei materion ei hun.

Bydd y siarter a’r is-ddeddfau newydd yn disodli’r Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad cyfredol fel dogfennau llywodraethol y Gymdeithas. Mae statws corff siartredig yn golygu y bydd y gymdeithas yn cael ei monitro gan Swyddfa’r Cyfrin Gyngor yn lle Tŷ’r Cwmnïau a’r Deddfau Cwmnïau. Mae Swyddfa’r Cyfrin Gyngor yn Gyngor arbennig o ymgynghorwyr y Frenhines, sy’n cynnwys aelodau cyfredol a blaenorol o Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

Bu’r Gymdeithas yn gweithio at sicrhau Siarter Brenhinol ers sawl blwyddyn ac mae wedi golygu ymgynghori gyda’r Cyfrin Gyngor a chymorth rhai cannoedd o gyrff allanol yng Nghymru a thu hwnt. Mae sicrhau Siarter Brenhinol yn dod â nifer o fanteision i’r Gymdeithas Ddysgedig gan gynnwys:

  • cydnabyddiaeth ehangach o amcanion elusennol y Gymdeithas
  • cyfoethogi statws y Gymdeithas Ddysgedig wrth weithio gyda chyrff eraill i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol i Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill
  • hyrwyddo gwaith a statws y Gymdeithas fel academi genedlaethol gyntaf Cymru
  • cydnabod pwysigrwydd dathlu ysgolheictod a gwasanaethu Cymru
  • ffurfioli rôl Cymdeithas Ddysgedig Cymru yng Nghymru ac yn y DU

I’r Gymdeithas Ddysgedig, mae dyfarnu Siarter Brenhinol yn ddigwyddiad nodedig ac yn brawf fod y Gymdeithas yn ddiogel ac wedi’i sefydlu’n dda, bod gan ei haelodau lefel uchel o gymhwyster a phrofiad ac y bydd eu hymddygiad a’u gweithgareddau’n cael eu monitro’n briodol. Mae’r Gymdeithas wedi dechrau trosi i’r corff siarter newydd ac yn gobeithio cwblhau’r broses erbyn diwedd blwyddyn gyfredol y Gymdeithas.

LSW Charter -008