Cyflwyno Gwobr Hywel Thomas am y tro cyntaf i fentor sy’n ysbrydoli eraill

Dr Caitlyn Donaldson oedd enillydd Gwobr Hywel Thomas, a gyflwynwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am y tro cyntaf eleni. Mae’r wobr yn cydnabod ei mentoriaeth, ei gwaith yn datblygu cymuned, a’i gwasanaeth ar lefel sefydliadol a chenedlaethol.

Cyflwynwyd y wobr yn ystod pedwerydd Colocwiwm Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar y Gymdeithas yn Aberystwyth, ac mae wedi’i henwi ar ôl Llywydd blaenorol y Colocwiwm, a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. Mae’n cydnabod unigolion neu dimau sy’n hyrwyddo Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac sy’n gweithio i wella diwylliant ymchwil eang Cymru y tu hwnt i’w gyrfa neu eu sefydliad eu hunain.

Mae Dr Donaldson yn gydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda ‘ffocws ar ddeilliannau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng nghyd-destun ysgolion cynradd ac uwchradd’. Mae wedi cael ei disgrifio fel mentor sy’n ysbrydoli ac sydd wedi cynorthwyo nifer fawr o Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar i gamu ymlaen i fyd ymchwil

Cydnabuwyd y ddau a ddaeth yn agosaf at y brig yn ystod y digwyddiad hefyd: tîm, sef Dr Daniela Duc, Dr Ivana Rozic a Dr Vassilissa Carangio am eu gwaith yn sefydlu cylchgrawn Unblock, sy’n ‘anelu i fod yn ddrws agored ar gyfer trafodaethau caredig ond diffuant ar faterion o bwys ym myd ymchwil, diwylliant ymchwil a’r byd academaidd’; a Winnie Courtene-Jones am ei gwaith yn mentora a hyrwyddo Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar ac yn creu diwylliant cadarnhaol, cynhwysol a theg.

Dywedodd yr Athro Rattan Yadav FLSW, sy’n aelod o banel adolygu y wobr:

“Roedd yn galonogol darllen am yr effaith sydd wedi cael ei chreu yn sgil blaengaredd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, ar draws sefydliadau yng Nghymru, ar ddiwylliant ymchwil, ar gymunedau, ac ar ddatblygiad rhwydweithiau.

“Mae’r rhain yn helpu i wella llesiant ymchwilwyr, yn ogystal ag amgylcheddau ymchwil.”

yn ôl i'r brig