Galw ar ymchwilydd annibynnol i arwain prosiect ar anghenion Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar a Chanol Gyrfa

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn chwilio am ymchwilydd annibynnol neu lawrydd i arwain prosiect ymchwil ac arolwg o sut mae ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanol gyrfa yn hunan-adnabod, a’r heriau sydd yn eu hwynebu ar wahanol gamau yn eu gyrfa.

Bydd y prosiect yn edrych ar sut mae ymchwilwyr yn ystyried eu gyrfaoedd i’r dyfodol, gan gynnwys a ydynt yn bwriadu aros mewn academia neu am barhau i weithio yn y byd ymchwil yng Nghymru neu yn rhywle arall. Mae’r sylw ar ymchwilwyr canol gyrfa, yn arbennig, yn cydnabod nad yw eu hanghenion a’u hunaniaethau penodol yn cael eu harchwilio’n ddigonol o hyd.

Mae’r Gymdeithas yn comisiynu’r prosiect i’w helpu i fireinio’r ymyriadau a’r mentrau y mae’n eu cynnal drwy ei rhaglen ddatblygu ymchwil a hyrwyddo ymhellach ecosystem ymchwil iach, gynhwysol a chynaliadwy yng Nghymru. Bydd hynny angen mewnbwn gan nifer o randdeiliaid allweddol, o Gymrodyr unigol y Gymdeithas i Rwydwaith Arloesi Cymru, o Medr i’r Fenter Athrawon Prifysgol Lleiafrifoedd Ethnig Cymreig. 

Mae’r prosiect ymlaen hyd at fis Ionawr 2027. Bydd angen ymrwymiad amser o 0.5 cyfwerth â llawn amser o leiaf dros gyfnod o 7 mis gan yr ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cyflwyno adroddiad terfynol gyda chanfyddiadau allweddol, pwyntiau dysgu ac argymhellion y gellir eu gweithredu, a hefyd datblygu brîff polisi a chrynodeb ffeithlun.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 27 Mai 2026

“Mae angen i ni ddeall pa fylchau sydd yn y ddarpariaeth ar gyfer datblygu ymchwilwyr ledled Cymru a’r DU,” meddai’r Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru. “Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ymchwilwyr canol gyrfa, lle nad oes digon o gymorth wedi’i dargedu ar eu cyfer ar hyn o bryd.”

“Hyderwn y bydd canlyniadau’r arolwg yn ein helpu i roi rhaglen o ddigwyddiadau a chymorth mewn lle i lenwi’r bylchau hynny.”

“Gall hyn gyfrannu at ein gwaith parhaus i wneud Cymru yn lle gwych i fod yn ymchwilydd a dyna pam rydym wedi gwirioni bod y prosiect wedi ennyn diddordeb partneriaid hanfodol fel Medr a Rhwydwaith Arloesi Cymru.”

yn ôl i'r brig