Lleoedd o’r Radd Flaenaf: Digwyddiad UKRI, Prifysgol Bangor
Dewch draw i glywed yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwraig UKRI, yn trafod strategaeth bum mlynedd gyntaf UKRI, ym Mhrifysgol Bangor am 10:00 ar Ddydd Gwener Rhagfyr 2il 2022.
UKRI yw ariannwr cyhoeddus mwyaf y DU ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan fuddsoddi dros £8 biliwn bob blwyddyn. Rydym yn dwyn ynghyd arbenigedd o bob disgyblaeth a sector i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r gymdeithas a’r byd o’n cwmpas, ac i gasglu a darparu gwerth o wybodaeth a syniadau.
Bydd strategaeth UKRI yn sbarduno system ymchwil ac arloesedd ragorol yn y DU sy’n rhoi’r cyfle i bawb gyfrannu ac i elwa, gan gyfoethogi bywydau yn lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd-eang.
Mae ymchwil ac arloesi yn ganolog i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu, megis:
- adferiad ôl-pandemig
- cyflawni Sero Net ac
- adeiladu economi wybodaeth egnïol sydd o fudd i’r DU gyfan.
Thema’r digwyddiad yw Lleoedd o’r Radd Flaenaf. Bydd yn archwilio amrywiaeth yr ymchwil a’r arloesedd a ariennir gan UKRI ledled Cymru. Bydd y rhaglen yn ystyried sut y gallwn gydweithio i ddarparu cyfleoedd trawsnewidiol i’n cymdeithas, a hynny drwy ymchwil ac arloesedd. Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o gynllun o weithgareddau a fydd yn arwain at UKRI yn ymgysylltu â chymunedau ar draws y DU.
Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad
Bydd y cyfarfod llawn yn cychwyn am 10:00 ar Ddydd Gwener Rhagfyr 2il 2022 ac yn cael ei ddilyn gan ddigwyddiad rhwydweithio dros goffi tan 12:30. I gofrestru eich diddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad hwn ym Mhrifysgol Bangor, defnyddiwch y dolenni canlynol:
- Os hoffech fynychu’n bersonol, cofrestrwch yma: https://eur.cvent.me/rQoWZ
- Os hoffech fynychu’n rhithiol, cofrestrwch yma: https://eur.cvent.me/K7aQr