Gwybodaeth i Gymrodyr 2023
Cyfarfod Cyfeiriadu Cymrodyr Newydd
Ar ddydd Mercher 17 Mai, rhwng 12:30-13:30, rydym yn cynnal cyfarfod Zoom ar gyfer Cymrodyr newydd. Dyma gyfle i chi ddysgu mwy am y Gymdeithas, ac i gwrdd â’n staff a’n swyddogion. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â’r Swyddog Cymrodoriaeth, Fiona Gaskell, a fydd yn anfon y ddolen Zoom atoch.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Gobeithio y byddwch yn gallu mynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol am 09:30 ddydd Mercher 24 Mai, pan fyddwch yn cael eich croesawu’n ffurfiol i’r Gymrodoriaeth ac arwyddo Cofrestr y Cymrodyr.
Am y tro cyntaf, bydd y Gymdeithas yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hybrid. Gobeithiwn weld nifer ohonoch chi wyneb yn wyneb, ond byddwn hefyd yn ffrydio’r cyfarfod yn fyw ar gyfer y rheiny nad ydynt yn gallu bod yno.Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hybrid yn Adeilad Hadyn Ellis.
Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle gwych i ddysgu am y gwaith rydym ni a’n Cymrodyr wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n nodi dechrau blwyddyn 2023-24 y Gymdeithas hefyd. Mae pob Cymrodyr yn gymwys i fod yn bresennol, ac rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.
Os hoffech fod yn bresennol, cofrestrwch yma.
Cinio i Gymrodyr
Mae’n bleser gan yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru eich gwahodd chi i ymuno ag ef mewn Cinio i Gymrodyr.
Cynhelir y cinio am 6.00pm nos Fawrth 23 Mai 2023, yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Mae Dr Cameron Durrant FLSW a Humanigen wedi darparu cefnogaeth garedig i’n cynorthwyo i gynnal y digwyddiad hwn, ac wedi ein galluogi i beidio â chodi am docynnau eleni
Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.
Archebwch yn gynnar i sicrhau eich tocyn.
Mae’r digwyddiad yn agored i westeion sydd wedi cael gwahoddiad a Chymrodyr yn unig; nid oes modd trosglwyddo’r gwahoddiad.
Cyfle i Gyfrannu i’r Gymdeithas
Fel Cymrawd, cewch gyfleoedd lu i gymryd rhan yng ngwaith y Gymdeithas. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Enwebu Cymrodyr yn y dyfodol ac eistedd ar un o’n pwyllgorau sy’n craffu ar enwebiadau
- Helpu i ffurfio strategaeth a gweithgareddau’r Gymdeithas drwy ymgeisio i ymuno â’n Cyngor neu bwyllgorau eraill (cewch eich hysbysu pan fydd llefydd gwag ar gael)
- Cymryd rhan yn ein gwaith i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru drwy’r gweithgareddau ar gyfer ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar.
- Gweithio gyda Chymrodyr eraill i gynnig cyngor neu gyfarwyddyd polisi yn eich maes arbenigedd
- Ymuno â ni mewn digwyddiadau i ddathlu ymchwil o Gymru ac i rwydweithio â Chymrodyr eraill, megis ein seremoni cyflwyno medalau blynyddol.
- Pleidleisio mewn etholiadau ar gyfer y Llywydd, aelodau o’r Cyngor a Chymrodyr y dyfodol
Ar ddechrau 2023 fe sefydlodd y Gymdeithas Bwyllgor Adnoddau Dynol. Cytunodd y cyngor i gadw un safle ar y Pwyllgor yn agored ar gyfer Cymrawd etholedig newydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb i Amanda Kirk.
Os hoffech ragor o wybodaeth am waith Pwyllgorau Llywodraethu’r Gymdeithas, cysylltwch ag Amanda Kirk a fydd yn gallu rhoi manylion i chi am y lleoedd gwag fydd ar gael ym mis Medi 2023.
Ffioedd
Mae’n rhaid i Gymrodyr newydd dalu ffi mynediad o £90. Mae ffi danysgrifio flynyddol o £180 (£90 i’r rheini sy’n 70 neu fwy ar 24 Mai 2023) hefyd. Mae’r rheini dros 84 oed yn cael eu heithrio rhag talu ffioedd mynediad a thanysgrifio. Byddwn yn cysylltu â chi ar wahân ynglŷn â’r ffioedd hyn (fel arfer, mae anfonebau’n cael eu hanfon yn yr hydref). Mae ffioedd tanysgrifio yn elfen bwysig o’n cyllideb; mae’r Gymdeithas yn hynod ddiolchgar i’n holl Gymrodorion am eu cymorth.
Rydym eisiau sicrhau nad yw ein ffioedd mynediad ac aelodaeth byth yn rhwystr i Gymrodoriaeth. Rydym yn gweithredu Polisi Rhyddhad Ffioedd ar gyfer Cymrodyr y mae eu hamgylchiadau’n ei gwneud yn anodd iddynt dalu’r ffioedd.
Caiff Cymrodorion hefyd eu hannog i gofrestru ar gyfer Rhodd Cymorth drwy gwblhau’r ffurflen syml hon:
Gan ein bod yn elusen gofrestredig, mae hyn yn golygu bod taliadau tanysgrifiadau yn werth 25% ychwanegol i’r Gymdeithas. Mae rhai cymrodorion hefyd yn dewis gwneud rhoddion ychwanegol rheolaidd neu achlysurol er mwyn cefnogi ein gwaith.
Proffil Gwefan a Diweddariad Data
Nawr, rydym angen mwy o wybodaeth gennych gan gynnwys cyfeiriad post (i ganiatáu i ni anfon eich tystysgrif Cymrodoriaeth). Bydd Fiona Gaskell yn anfon datganiad atoch o ba wybodaeth sydd gennym amdanoch ar hyn o bryd (e.e. Teitl Swydd), a hoffem i chi ddiwygio neu ychwanegu gwybodaeth fel y bo’n briodol.
Byddwch yn cael eich ychwanegu at ein gwefan: Y Cymrodyr
A fedrwch chi anfon llun sy’n addas i’w gyhoeddi ar-lein ar gyfer eich proffil at Fiona Gaskell? Mae datrysiad 150dpi yn well.