Polisi Rhyddhad Ffioedd
Cyflwyniad
Bydd ein Cymrodyr yn talu ffi ymuno untro wrth gael eu croesawu i’r Gymdeithas am y tro cyntaf, a ffi tanysgrifio flynyddol wedi hynny. Mae’r ffioedd hyn yn ffynhonnell incwm bwysig i’r Gymdeithas, ac yn ein helpu i wneud gwahaniaeth yng Nghymru.
Gall pob Cymrawd ddewis talu mewn rhandaliadau neu drwy ddebyd uniongyrchol. Does dim angen ichi lenwi ffurflen er mwyn gwneud hyn – cysylltwch â’n Swyddog Cyllid ar finance@lsw.wales.ac.uk.
Mae ein Cymrodyr yn talu ffi ymuno untro pan gânt eu derbyn i’r Gymdeithas, ac yna byddant yn talu ffi danysgrifio flynyddol. Mae’r ffioedd hyn yn ffynhonnell incwm bwysig i’r Gymdeithas a’i gwaith.
Defnyddir yr un strwythur ffioedd ar gyfer pob Cymrawd, ac eithrio’r canlynol:
- Bydd y Gymdeithas yn rhoi gostyngiad o 50% i’r ffioedd i bob Cymrawd dros 70 oed.
- Ni fydd y Gymdeithas yn codi unrhyw ffioedd ar Gymrodyr sydd dros 85 oed.
Er bod ffioedd tanysgrifio yn rhan greiddiol o’n cyllid, rydym am sicrhau nad ydynt yn atal unrhyw unigolyn rhag bod yn aelod o’r Gymrodoriaeth. Gall Cymrodyr ac enwebeion am Gymrodoriaeth felly ymgeisio am ostyngiad i’r ffi (neu ofyn am gael hepgor y ffi) ar unrhyw bryd.
Mae’r Polisi Gostwng (neu hepgor) Ffioedd hwn yn esbonio sut y byddwn yn trin pob cais yn deg, yn gyfartal ac yn gyfrinachol.
Gall Cymrawd (neu rywun ar ei ran) ofyn am gael gostwng ffi (neu ei hepgor).
- Pan gaiff wybod bod Cymrawd yn ddifrifol wael, bydd y Gymdeithas fel arfer yn hepgor ffioedd y Cymrawd hwnnw nes cael gwybod bod y Cymrawd wedi gwella’n llwyr. Gall y Cymrawd neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran hysbysu’r Gymdeithas drwy e-bostio’r Prif Weithredwr yn: oharrison@lsw.wales.ac.uk
- Os bydd Cymrawd (neu enwebai ar gyfer Cymrodoriaeth) yn teimlo bod y ffi/y byddai’r ffi yn rhwystr i’w cyfranogiad, gallant lenwi ffurflen Gostwng (neu Hepgor) Ffioedd i ofyn i’r Gymdeithas ystyried gostwng, neu mewn rhai achosion, hepgor ffioedd am gyfnod cytunedig.
Sylwch nad yw’n bolisi gennym fel arfer i ostwng cyfraddau ar sail ymddeoliad Cymrawd yn unig. Rydym yn croesawu cyfranogiad ein holl Gymrodyr a hyd yn oed ar ôl ymddeol, bydd Cymrodyr yn parhau i chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Gymdeithas. Gweler y gostyngiadau ffioedd a gymhwysir i Gymrodyr dros 70 oed.
Nid oes unrhyw baramedrau penodol y gellir gwneud cais oddi tanynt. Bydd pob cais gan Gymrawd neu enwebai yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun.
Os cyflwynir cais i ostwng (neu hepgor) ffi, a’i gymeradwyo, ni fydd hynny’n effeithio ar statws Cymrawd o fewn y gymdeithas. Byddant yn parhau i dderbyn unrhyw fuddion, a gallant gymryd rhan yn y sefydliad yn yr un modd â’n holl Gymrodyr, gan gynnwys defnyddio’r teitl ar ôl eu henw a roddir iddynt wrth gael eu hethol.
Proses ar gyfer Ceisiadau i Ostwng neu Hepgor Ffioedd:
- Dylai unrhyw Gymrawd neu Enwebai sy’n dymuno gwneud cais i ostwng (neu hepgor) ffioedd lenwi’r ffurflen ‘Gostwng (neu Hepgor) Ffioedd‘ a’i hanfon yn syth drwy e-bost, gyda ‘Cyfrinachol’ wedi’i nodi ar y neges, at y Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu: hwillson@lsw.wales.ac.uk. Fel arall, gall enwebeion ofyn i’w Cynigydd wneud y cais hwn ar eu rhan os yw’n well ganddynt.
- Bydd yr holl fanylion adnabod yn cael eu tynnu o’r cais, a bydd wedyn yn cael ei adolygu gan y Trysorydd (Cymrawd) a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Cymrawd) a fydd fel arfer yn ymateb (drwy’r Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu) gyda phenderfyniad o fewn 3 wythnos.
- Gall y penderfyniad hwn gynnwys cynnig gostyngiad (neu’r hepgoriad), nodyn i esbonio pam nad yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gallu derbyn y cais ar hyn o bryd, neu wahoddiad i roi mwy o gyd-destun i’r cais.
- Os cynigir unrhyw ostyngiad (neu hepgoriad), nodir hefyd beth fydd cyfnod y gostyngiad.
- Bydd y cynnig, os caiff ei ganiatáu, yn cael ei rannu â’r Swyddog Cyllid. Dim ond canlyniad ariannol y gostyngiad (neu’r hepgoriad) ffi a gymhwysir y bydd y Swyddog Cyllid yn ei dderbyn, nid manylion y cais. Bydd ffurflen wreiddiol yr ymgeisydd i wneud cais i ostwng (neu hepgor) ffioedd yn cael ei chadw nes nad oes angen y gostyngiad (neu’r hepgoriad) mwyach.
- Bydd y Trysorydd, Cadeirydd y Grŵp Cynghori Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Pennaeth Ecwiti ac Ymgysylltu yn trin holl fanylion y cais yn gyfrinachol. Fodd bynnag, byddwn yn cadw cofnod dienw o benderfyniadau i’n helpu i wneud penderfyniadau cyson yn y dyfodol. Bydd y cofnod dienw hwn, a cheisiadau dienw unigol, yn cael eu rhannu â Chlerc a Thrysorydd y Gymdeithas i ddibenion llywodraethu.
- Fel arfer, lle ceir cais am hepgoriad/gostyngiad am gyfnod o fwy na blwyddyn, byddwn yn gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus ail-ymgeisio’n flynyddol i sicrhau bod ein cofnodion ariannol yn gyfredol. Mewn rhai amgylchiadau byddwn yn hepgor y gofyniad hwn – cewch wybod am hynny yn yr ymateb i’ch cais.
Tynnu’r cynnig yn ôl neu ei addasu
Os bydd amgylchiadau Cymrawd neu enwebai yn newid ar ôl caniatáu gostyngiad (neu hepgoriad) ffi, fel nad oes ei angen mwyach, dylai’r Cymrawd neu’r enwebai hysbysu’r Pennaeth Ecwiti a Ymgysylltu ar y cyfle cyntaf.
Nodiadau ychwanegol ar gyfer Enwebeion
Mewn rhai achosion, efallai na fydd enwebeion am fwrw ymlaen ag enwebiad onid ydynt yn gwybod y bydd gostyngiad (neu hepgoriad) yn cael ei ganiatáu. Dylai enwebeion wneud cais o leiaf fis cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau i’r Gymrodoriaeth, er mwyn rhoi digon o amser i wneud penderfyniad cyn y dyddiad cau. Ni fydd y cais hwn yn cael ei rannu â’r Pwyllgor Craffu na’r Cyngor Arbennig sy’n gwneud yr argymhellion ar gyfer y Gymrodoriaeth, ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar eu penderfyniad.
Bwriedir i’r penderfyniad i ostwng (neu hepgor) ffioedd enwebai roi sicrwydd ariannol yn unig. Nid yw’n rhoi unrhyw awgrym o debygolrwydd yr enwebai o gael ei ethol i’r Gymrodoriaeth, ac mae’r penderfyniad yn gyfan gwbl ar wahân i’r broses graffu.