Cenhadaeth a Strategaeth

Cenhadaeth y Gymdeithas yw hyrwyddo rhagoriaeth ac ysgolheictod, ysbrydoli dysg a gweithredu er budd y genedl.

Mae ein Strategaeth 2018-2023 yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Erbyn 2023, rydym am i’r Gymdeithas fod:

  • Yn fwy amrywiol – gan harneisio gwybodaeth gan amrywiaeth ehangach o bobl
  • Yn fwy effeithiol – gan wneud defnydd cryfach o arbenigedd a mesur ein heffaith
  • Yn ehangach ei chwmpas – gan gyrraedd cynulleidfaoedd newydd gyda’n gweithgareddau

Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn:

Hyrwyddo ymchwil
Cyflwyno digwyddiadau ansawdd uchel, dathlu rhagoriaeth, a chynnig llwyfannau i ymchwilwyr gyrfa gynnar

Cyfrannu arbenigedd
Cydlynu ymatebion arbenigol i ymgynghoriadau, cefnogi llunio polisi ar sail tystiolaeth, a harneisio ein harbenigedd i arwain y drafodaeth mewn meysydd allweddol

Hybu dysg a thrafodaeth
Cyfathrebu cyflawniadau ein Cymrodyr, cefnogi ysgolion a cholegau a datblygu trafodaeth gyhoeddus ar faterion o bwys

Datblygu’r Gymrodoriaeth
Cynyddu ymwneud ein Cymrodyr â’n gwaith, ethol amrywiaeth ehangach o Gymrodyr, a gweithio gyda sefydliadau sy’n hyrwyddo amrywiaeth

Lawrlwythwch y Cynllun Strategol 2018-2023

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.