Beth yw Astudiaethau Cymreig?

Mae Astudiaethau Cymreig yn cwmpasu pob maes ymholi sy’n archwilio nodweddion diwylliannol, cymdeithasol a ffisegol Cymru, yn ehangder llawn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol Cymru. Mae’n cynnwys ymchwil am Gymru, i Gymru.

Mae cael gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r hyn mae’n ei olygu i fyw mewn Cymru fodern; cael perthynas â Chymru; a gallu cyfranogi yng nghymdeithas Cymru’n golygu bod angen dealltwriaeth o hanes Cymru, ei gwyddorau, celfyddydau, iaith a diwylliant, a chysylltu â Chymru fel lle ac etifeddiaeth naturiol, a’r cyfan yn elfennau hanfodol wrth ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth, hyder ac ymdeimlad o foddhad. Ymgorfforir y cysyniad cyfunol hwn o dirwedd a chymuned neu ‘ymdeimlad o gartref’ yn y gair cynefin, hynny yw, lluosogrwydd y naratifau sy’n croestorri i greu ymdeimlad o le, perthyn a hunaniaeth.

Mae’r term cynhwysol “Astudiaethau Cymreig”, a fabwysiadwyd gan y Gymdeithas, yn cofleidio ystod eang o bynciau sy’n helpu i gwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth o Gymru gan gynnwys meysydd traddodiadol fel hanes, gwleidyddiaeth, y Gymraeg, cymdeithaseg a llenyddiaeth, a hefyd meysydd perthnasol o’r gwyddorau, archeoleg, iechyd, addysg, technoleg, y celfyddydau, cerddoriaeth ac amgylcheddau naturiol.

Er bod llawer o gyrff, unigolion a disgyblaethau gwahanol wrthi’n hyrwyddo agweddau gwahanol o Astudiaethau Cymreig, does neb wedi ceisio harneisio’r grym cyfunol a ddaw yn sgil crynhoi’r gwahanol ffrydiau cyn hyn. A hithau’n ymwybodol o’r angen i feithrin canfyddiad o Gymdeithas sy’n edrych allan, sy’n gynhwysol, sy’n cyfannu ac sy’n ceisio cyflenwi ei hamcanion lle bo’n bosibl drwy gydweithio a chreu partneriaethau gyda chymdeithasau a chyrff cydnaws i geisio gwasanaethu Cymru’n well, mae’r Gymdeithas wedi mabwysiadu Astudiaethau Cymreig fel prosiect allweddol, uchel ei broffil, ac wedi neilltuo cyllid penodol i gefnogi rhaglen barhaus o weithgaredd.