Beth rydym yn chwilio amdano
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ystyried Gweithdy fel ysgolheigion yn dod at ei gilydd yn gynnar yn y broses o gynllunio, ac yn datblygu menter ymchwil gydweithredol. Sylwer mai bwriad y grantiau hyn yw annog a chefnogi amrywiaeth o gyfarfodydd a digwyddiadau i hyrwyddo’r gwaith o archwilio’r pwnc, ac nad yw un digwyddiad sy’n rhannu ymchwil wedi’i gwblhau neu ymchwil uwch yn gymwys o dan y cynllun hwn. I gael gwybodaeth am grantiau cymorth mewn perthynas â digwyddiadau’r Gymdeithas, cliciwch yma.
Rhagwelir y bydd pob prosiect Gweithdy yn arwain at ddatblygu rhwydwaith, neu at amlinellu syniad ar gyfer gwneud cais am brosiect grant yn y maes fydd yn cael ei archwilio, er mwyn darparu canlyniadau pendant a fydd o werth i’r gymuned academaidd a’r cyhoedd ehangach.
Prif egwyddorion y cynllun ariannu ydy:
- darparu ymchwil gydweithredol a rhyngddisgyblaethol
- gweithio gyda phartneriaid allanol i gyd-gynhyrchu canlyniadau ymchwil ac i gyfnewid gwybodaeth
- perthnasedd yng nghyd-destun Cymru
- ystyried a chyfrannu at saith nod lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Bydd aseswyr yn gwirio gwerth am arian hefyd, hynny yw, ydy’r adnoddau y gofynnir amdanynt yn briodol ac yn rhesymol.