Pwy sy’n cael ymgeisio

Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys dau sefydliad neu fwy.

Bydd Ymgeiswyr Arweiniol yn un o’r canlynol:

  • yn academydd amser llawn neu ran-amser sydd yn cael ei gyflogi gan Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru;
  • yn ymarferydd amser llawn neu ran-amser, neu’n aelod o staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, gydag ymrwymiad amlwg i addysgu ac ymchwil o fewn y sefydliad hwnnw.

Gall Ymgeiswyr Arweiniol fod ar gontract dros dro neu barhaol yn eu sefydliad.

Gall tîm y prosiect gynnwys y canlynol hefyd:

  • ymchwilwyr academaidd eraill o unrhyw ddisgyblaeth,
  • ymchwilwyr y tu allan i’r byd academaidd,
  • aelodau o’r cyhoedd neu grwpiau sy’n wynebu’r cyhoedd.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan banel o Gymrodyr a staff y Gymdeithas, a fydd yn dod i gonsensws wrth benderfynu pa geisiadau sy’n llwyddiannus. Efallai y byddwn yn gofyn i ymgeiswyr am ragor o wybodaeth, cyn cadarnhau bod grant wedi cael ei ddyfarnu iddynt.

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu yn unol â’r meini prawf sydd yn cael eu rhestru yn yr adran ‘Beth rydym yn chwilio amdano’.

Yr arian sydd ar gael

Gall ceisiadau gynnwys costau uniongyrchol wedi’u cyfiawnhau’n llawn a godwyd wrth gyflawni’r prosiect.

Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:

  • adnoddau staff (gan gynnwys gweinyddu a chydlynu, cyfraniadau at gyflogau (lle bydd unigolyn a enwir yn gwneud gwaith na fyddai’n cael ei ystyried yn rhan o’i ddyletswyddau arferol), is-gontractio gwasanaethau, galluogi partneriaid cyhoeddus/cymunedol i gymryd rhan)
  • adnoddau nad ydynt yn ymwneud â staff (gan gynnwys costau deunyddiau, teithio a chynhaliaeth, cyfarfodydd a digwyddiadau, treuliau, deunyddiau a chyfarpar, costau gwerthuso)
  • ariannu treuliau, honorariwm ar gyfer amser, gofal plant a chostau eraill, i ganiatáu i’r rheiny y tu allan i’r byd academaidd gymryd rhan, fel cymunedau cyhoeddus, a hyfforddiant i feithrin gallu’r grwpiau hyn i chwarae rhan hyderus a gweithredol yng ngweithgareddau’r gweithdy a’r ymchwil.

Mae’r alwad hon yn cael ei hariannu y tu allan i’r rheolau Costau Economaidd Llawn.

Gall sefydliad yr ymgeisydd arweiniol a’r sefydliadau partner ychwanegu at grantiau.

Costau sydd ddim yn cael eu talu

Mae’n rhaid i’r gyllideb a’r costau fod yn seiliedig ar amcangyfrifon dilys. Ni chaiff cyllid ei ddarparu ar gyfer y canlynol:

  • costau ystadau ac anuniongyrchol
  • ffioedd neu honoraria i bobl sydd eisoes mewn cyflogaeth â thâl i gyflawni gweithgareddau lle byddai gweithgareddau o’r fath yn cael eu gwneud yn rhesymol fel rhan o’u dyletswyddau arferol
  • cyllid ôl-weithredol, gan gynnwys y prosiectau hynny â dyddiad cychwyn ar ôl dyddiad cau’r alwad am gyllid, ond cyn i’r penderfyniadau ariannu gael eu cyhoeddi
  • costau seilwaith/adeiladu
  • treuliau a gafwyd wrth gyflwyno’r cais
  • cyrsiau academaidd fel graddau Meistr neu ddoethurol, a ffioedd dysgu eraill

Mae’r Gymdeithas yn cadw’r hawl i beidio ag ariannu hyd at y cyfyngiad a ddyrennir i’r alwad, ac i wneud newidiadau i gyfyngiadau cyllidebol y grantiau llwyddiannus.

Bydd y broses i ddyfarnu’r grantiau hyn fel a ganlyn:

1. Bydd archeb brynu yn cael ei chodi, a bydd rhif archeb brynu yn cael ei rannu.

2. Bydd y grant yn cael ei dalu drwy anfoneb (mae’n rhaid iddo gynnwys rhif yr archeb brynu, cyfeiriad y safle, cyfeiriad Cymdeithas Ddysgedig Cymru a rhif anfoneb unigryw)