Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes) 2023: Dr Leighton Evans

Mae Leighton Evans yn Athro Cyswllt Damcaniaeth Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae gwaith ymchwil Leighton yn mynd i’r afael â chyfryngu profiadau a bywyd dydd i ddydd drwy gyfryngau digidol.

Ef yw awdur Locative Social Media (2015), The Re-emergence of Virtual Reality (2018) a chyd-awdur Location-based Social Media: Space, Time and Identity (2017), Intergenerational Locative Play: Augmenting Family (2021) a From Microverse to Metaverse: Modelling the Future Through Today’s Virtual Worlds (2022).

“Rwy’n falch iawn ac yn teimlo anrhydedd o dderbyn medal gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae derbyn yr anrhydedd hwn nid yn unig yn gydnabyddiaeth o ymdrechion y gorffennol, ond yn anogaeth ddwys ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n ddiolchgar dros ben, ac wedi cael fy ysbrydoli i barhau i wthio ffiniau gwybodaeth er mwyn gwella Cymru a’r byd ehangach.”

Dr Leighton Evans