Medal Dillwyn (STEMM) 2023: Dr Iestyn Woolway

Mae Dr Iestyn Woolway, Darllenydd yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, yn arweinydd byd-eang yn y maes asesu effaith newid yn yr hinsawdd, ac mae’n treulio llawer o amser yn astudio newid amgylcheddol byd-eang.

Mae wedi cyflawni gwaith arloesol wrth gymhwyso’r technegau diweddaraf, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial ar gyfer integreiddio arsylwadau maes gyda data lloeren ac efelychiadau model, er mwyn ateb cwestiynau allweddol sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd.

Mae ei waith yn cynnig mewnwelediadau beirniadol i sut fydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr amgylchedd, gan ddarparu mapiau ffyrdd i reolwyr adnoddau sydd â’r dasg o roi cyfrif am fregusrwydd hinsawdd ecosystem wrth wneud penderfyniadau rheoli a chadwraeth.

“Rwyf yn hapus dros ben fy mod i wedi derbyn y fedal hon, a hoffwn fynegi fy niolch o waelod calon i fy nheulu gwych, fy mentoriaid cefnogol ac i fy mhartneriaid cydweithredol o’r gorffennol i’r presennol, sydd i gyd wedi bod yn allweddol yn fy nhaith”.

Dr Iestyn Woolway