Dr. Annie Tubadji
Mae ein Medal Dillwyn (Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg a Busnes) yn cael ei dyfarnu i Dr Annie Tubadji, am ei gwaith ar duedd ddiwylliannol, anghydraddoldeb a gwahaniaethu.
Mae Dr Annie Tubadji, Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Abertawe, yn derbyn medal Dillwyn am ei gwaith ar duedd ddiwylliannol, anghydraddoldeb a gwahaniaethu.
Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi canolbwyntio ar anghydraddoldeb, iechyd meddwl a pholareiddio yn ystod yr argyfwng COVID-19, gwaith sydd wedi cael sylw’n rhyngwladol.
Darllenwch fwy am waith Dr. Tubadji.
Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Tubadji:
“I am overjoyed that of all medals possible I am honoured with the Dillwyn one!
“The Dillwyn family have shown by example that my Culture Based Development (CBD) paradigm works in practice: using art and science as a tool, they once shifted the cultural and economic gravity from London to Swansea.”
Roedd Dr Rhiannon Pugh (Lund University) a Dr Thomas Leahy (Prifysgol Caerdydd) hefyd wedi eu canmol gan Bwyllgor y Fedal.