Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn dwyn arweinwyr ymchwil ynghyd i fynd i’r afael â heriau polisi a rennir

Mae uwch lunwyr polisi, cyllidwyr ymchwil ac arweinwyr academaidd o bob cwr o Gymru, Iwerddon a’r Alban wedi ymgynnull yng Nghaeredin ar gyfer digwyddiad deuddydd i ystyried sut all systemau ymchwil cenedlaethol ymateb i gyfleoedd a heriau a rennir.

Mae’r digwyddiad, a gynhelir ar 17eg a’r 18fed Tachwedd, yn dwyn y teitl “Cynnal Gallu Ymchwil Cenedlaethol: Safbwyntiau ledled yr Alban, Cymru ac ynys Iwerddon”. Trefnwyd y digwyddiad gan Gynghrair yr Academïau Celtaidd (CAA) a’i gynnal gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin (RSE).

Mae’r CAA yn uno Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC), Academi Frenhinol Iwerddon (RIA), a’r RSE i hyrwyddo cydweithrediad a chryfhau dealltwriaeth traws-genedlaethol o fewn y DU ac Iwerddon.

Mae polisi ymchwil yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r CAA a daeth y cynulliad deuddydd yng Nghaeredin ag uwch lunwyr polisi, cyllidwyr, arweinwyr ymchwil a defnyddwyr ymchwil ynghyd, yn ogystal â Chymrodyr o’r tair academi i ystyried sut y gellir atgyfnerthu systemau ymchwil ac arloesi mewn amgylchedd sy’n gynyddol heriol.

Rhoddodd y trafodaethau ystyriaeth i faterion fel adnoddau cyfyngedig, blaenoriaethau strategol cystadleuol a’r pwysigrwydd cynyddol o ddulliau ymchwil ac arloesi sy’n seiliedig ar le. Er bod pob awdurdodaeth yn gweithredu o fewn ei hamgylchedd ariannu a pholisi ei hun, bu cyfranogwyr yn ystyried yr heriau sy’n gyffredin rhyngddynt a’r cyfleoedd i ddysgu o brofiadau ei gilydd.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar systemau ymchwil cenedlaethol unigol, ceisiodd y digwyddiad adnabod egwyddorion cyffredin, dulliau effeithiol a chyfleoedd i gydweithio a allai helpu i lywio penderfyniadau ariannu a pholisi ymchwil yn y dyfodol.

Bydd y trafodaethau’n sail i bapur polisi’r Gynghrair y mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2027, ar ôl ymghynghoriad pellach gyda’r rhanddeiliaid. Bydd y papur yn tynnu ar gyd-arbenigedd y tair academi i gyfrannu safbwyntiau annibynnol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â chynnal gallu ymchwil cenedlaethol.

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Frenhinol Caeredin a Chadeirydd Cynghrair yr Academïau Celtaidd, yr Athro Syr Anton Muscatelli:

“Our shared work through the Celtic Academies Alliance offers us unique opportunities to bring together representatives from across disciplines and organisational boundaries to exchange knowledge on key strategic issues. We were delighted to be able to bring together a diverse group of people from across the island of Ireland, from Scotland and Wales, and indeed elsewhere in the UK, to have fruitful discussions on the future of research policy in our jurisdictions during the recent event held at the RSE.

“The diverse programme offered us a chance to engage in deep reflection on the strategic choices that need to be made to ensure strong resilient research cultures and to draw out shared learnings and best practices that preserve and even enhance our national capability.

“As Scotland’s national academy, we have a key role to champion the value of research, and the discussions held across the two days, synthetised in an upcoming policy paper, will offer a significant contribution to research policy development.”

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens:

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ddiolchgar dros ben i Gymdeithas Frenhinol Caeredin am drefnu’r gynhadledd bwysig ac amserol hon. Wrth i bethau fynd yn gynyddol dynn i’n prifysgolion o ran arian, gallai penderfyniadau ar gryfder neu oroesiad meysydd pwnc ddod yn fwy mympwyol a byrdymor.

“Roedd y gynhadledd hon yn rhoi lle i ni gyd feddwl am bolisi ymchwil datganoledig hyd yn oed os nad oes gennym ni’r holl ysgogwyr ar gael i ni. Beth mae gwlad ddatganoledig angen i’w hymchwil wneud? Pa feysydd sy’n dod ag arloesedd a budd economaidd? Pa feysydd sy’n hanfodol i hunaniaeth ac iaith? Beth yw ein huchelgais?

Roedd yn gyfle hefyd i’r tri Llywydd a Phrif Weithredwyr gryfhau’r gynghrair a chynllunio cydweithrediad yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Daniel Carey, Llywydd, RIA:

‘Research and innovation are fundamental to addressing the social, economic and environmental challenges facing our societies. While Ireland, Northern Ireland, Scotland and Wales have distinct research systems, we also face many of the same questions about how best to support research, develop capacity and ensure that investment delivers lasting benefits.’

“The CAA provides an important opportunity to bring together our collective expertise and experience to inform these discussions. As independent national academies, we have a valuable role to play in contributing to research policy, and in identifying where we can learn from one another.”

Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin fel rhan o’i rôl o ddarparu ysgrifenyddiaeth Cynghrair yr Academïau Celtaidd ar gyfer 2026-2027.

yn ôl i'r brig