Y Gymdeithas yn cyhoeddi enillwyr medalau a gwobrau i ddathlu ymchwil ac arloesi o Gymru sy’n newid bywydau
Mae dychymyg, dyfeisgarwch a chreadigrwydd Cymru i’w gweld yn amlwg yng ngwaith y chwe unigolyn a thîm sydd wedi ennill medalau a gwobrau newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
<strong>Wales must do more to celebrate and promote the successes of its researchers</strong>
Mae’r enillwyr yn dod o amrywiaeth o ddisgyblaethau, ac maen nhw ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd. Byddant yn derbyn eu gwobrau mewn digwyddiad yn y Senedd ar ddydd Iau 5 Tachwedd, a fydd yn dathlu cryfder yr ymchwil a’r gwaith arloesi sy’n deillio o Gymru, ac sy’n ymwneud â Chymru.
Enillwyr eleni:
- Yr Athro Paul Meredith FLSW: Gwobr Arglwyddes Rhondda am Gyflawniad Rhagorol
Y Ganolfan Deunyddiau Lled-Dargludydd Integreiddiol, Prifysgol Abertawe
Mae Paul yn un o ffigurau amlycaf amgylchedd ymchwil y wlad, ac yn chwarae rhan allweddol yn ein diwydiant lled-ddargludyddion. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar rôl hollbwysig lled-ddargludyddion mewn cymaint o agweddau ar fywyd modern, o sgriniau ffonau symudol a goleuadau LED i baneli solar, yn ogystal â’r angen i ddatgarboneiddio’r prosesau cynhyrchu sydd yn cael eu defnyddio i’w cynhyrchu. Cliciwch yma i ddarllen mwy am Paul Meredith.
- CAER Heritage: Gwobr yr Athro Millicent Mackenzie am ddatblygiad EDI mewn Bywyd Academaidd neu Broffesiynol
Action in Caerau and Ely | Prifysgol Caerdydd
Mae gan CAER Heritage hanes balch o greu effaith academaidd a chymdeithasol. Mae’n dod ag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd, ysgolion, colegau a’r gymuned leol at ei gilydd i gynhyrchu ymchwil ac i gynnal gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar safleoedd treftadaeth yng ngorllewin Caerdydd. Yn y broses, mae’n newid bywydau, yn enwedig drwy herio canfyddiadau negyddol o’r rhan hon o’r ddinas, a chodi dyheadau ar yr un pryd. Cliciwch yma i ddarllen mwy am CAER Heritage.
- Yr Athro Kirsti Bohata FLSW: Medal Gwen John ar gyfer Dyniaethau a Chelfyddydau
Prifysgol Abertawe
Mae Kirsti yn eiriolwr brwd dros y celfyddydau a’r dyniaethau, ac yn hyrwyddo eu defnydd mewn prosiectau sy’n amrywio o iechyd y blaned ac Iaith Arwyddion Prydain i gefnogi menywod a merched sydd wedi goroesi trais. Mae’r gwaith eirioli hwn yn seiliedig ar ei hymchwil i lenyddiaeth Saesneg Cymru, gyda phwyslais ar rywedd, iaith, ethnigrwydd, tirwedd a lle. Cliciwch yma i ddarllen mwy am Kirsti Bohata.
- Yr Athro Valentina Escott-Price: Medal Alfred Russel Wallace ar gyfer Biowyddorau a Meddygaeth
Sefydliad Ymchwil Dementia, Yr Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdyd
Mae Valentina yn enwog yn rhyngwladol am ei defnydd arloesol o ddulliau cyfrifiadurol a dysgu peirianyddol i wella’r ddealltwriaeth o ddementia ac i nodi ffactorau risg y gellir eu lleihau neu eu haddasu. Mae hi wedi helpu’r GIG i ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y ffordd y bydd triniaethau Alzheimer sy’n addasu cwrs y clefyd yn effeithio ar wasanaethau iechyd, ac mae hi hefyd wedi chwarae rôl gynghorol wrth gefnogi Llywodraeth y DU i ddatblygu ei strategaeth dementia. Cliciwch yma i ddarllen mwy am Valentina Escott-Price.
- Dr Hana D’Souza: Medal Dillwyn ar gyfer Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd
Mae Hana yn seicolegydd datblygiadol, sy’n defnyddio ei hymchwil i herio disgrifiadau negyddol o gyflyrau niwroddatblygiadol. Mae hi wedi datblygu adnoddau i gasglu a phrosesu data am brofiadau bywyd bob dydd plant ifanc sydd gyda syndrom Down, ac sydd hebddo. Mae ei gwaith wedi cael effaith bwysig ar waith polisi sy’n ymwneud â hawliau plant a phobl ifanc. Cliciwch yma i ddarllen mwy am Hana D’Souza.
- Dr David Williams: Medal Dillwyn ar gyfer Peirianneg, Gwyddorau Ffisegol a Mathemateg
Cyfleuster Ymchwil Biofecaneg Gyhyrysgerbydol, Yr Ysgol Peirianneg, Prifysgol Caerdydd
Peiriannydd meddygol yw David, sy’n dod â’i arbenigedd peirianyddol i fyd delweddu meddygol a biomecaneg glinigol, gan gyflwyno datblygiadau yn y defnydd o dechnegau uwch fel MRI a phelydr-x deuol. Mae gan yr offer hwn fanteision niferus ar gyfer orthopaedeg, adsefydlu, rheoli clefydau a chynllunio llawfeddygol, gyda’r potensial i drawsnewid gofal i bobl sy’n dioddef o broblemau ffêr, pen-glin, ysgwydd neu gefn. Cliciwch yma i ddarllen mwy am David Williams.
Rhaid i Gymru wneud mwy i ddathlu a hyrwyddo llwyddiannau ei hymchwilwyr
Dyma’r flwyddyn gyntaf y bydd y Gymdeithas yn cyflwyno ei medalau a’i gwobrau ar eu newydd wedd, sydd wedi’u henwi ar ôl rhai o ffigurau mwyaf arloesol Cymru, sydd i gyd yn arloeswyr y neu maes, ac yn aml yn llwyddo yn wyneb rhwystrau a heriau sylweddol. Mae’r chwe medal a gwobr hyn yn rhan o gyfres newydd o ddeuddeg, a fydd yn cael eu cyflwyno dros gyfnod treigl o ddwy flynedd. Bydd y chwech cyntaf yn cael eu cyflwyno eleni (ac wedyn yn 2028), a bydd y chwech nesaf yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yn 2027 (a bob yn ail flwyddyn wedyn).
Nod y medalau a’r gwobrau yw rhannu straeon ymchwilwyr Cymru a’u cyflawniadau mor eang â phosibl, beth bynnag fo’u maes gwaith, a p’un a ydynt yn dod o fyd diwydiant, y byd academaidd, y trydydd sector neu faes arall. Mae gwaith eithriadol sy’n newid bywydau yn cael ei wneud yng Nghymru, ac mae’r medalau a’r gwobrau yn cynnig cyfle i’w ddathlu.
Mae’r enillwyr yn dod o amrywiaeth o ddisgyblaethau, ac maen nhw ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd.