Medal Frances Hoggan 2023: Yr Athro Siwan Davies

Mae’r Athro Siwan Davies yn Ddaearyddwraig ym Mhrifysgol Abertawe, yn adnabyddus yn rhyngwladol am ysgogi darganfyddiadau pwysig yn y maes teffrocronoleg: canfod a gwneud dadansoddiad cemegol o ronynnau lludw folcanig microsgopig er mwyn ail-greu newidiadau blaenorol yn yr hinsawdd.

Mae hi ymhlith y cyntaf i gymhwyso’r dechneg hon i archwilio newidiadau tymheredd cyflym dros y 100,000 o flynyddoedd diwethaf o’r dystiolaeth a warchodwyd o fewn creiddiau rhew pegynol, yn ogystal â dilyniannau gwaddodol morol. Mae hi wedi sicrhau sawl gwobr uchel eu bri, gan gynnwys Gwobr Philip Leverhulme, Grant Dechrau’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, ac Uwch Gymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Leverhulme y Gymdeithas Frenhinol.

“Braint a phleser o’r mwyaf yw ennill medal Frances Hoggan gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am fy ngwaith ymchwil i newid amgylcheddol blaenorol, sydd mor bwysig inni oll, o ystyried yr argyfwng hinsawdd. Mae’r wobr hon yn golygu’r byd i mi fel academydd o Gymru, ac rwy’n falch o fod wedi gallu mwynhau gyrfa academaidd ragorol yng Nghymru.

“Rwyf wedi bod yn hynod ffodus o fod wedi cael fy ysbrydoli a’m cefnogi gan fentoriaid, cydweithwyr ac aelodau tîm arbennig, o bob cwr o’r byd, ac rwyf wedi mwynhau ysbrydoli a chefnogi eraill yn fy nhro.”

Yr Athro Siwan Davies