Hysbysiad am Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2021

2.30pm, 19 Mai 2021

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle gwych i ddysgu am y gwaith rydym ni a’n Cymrodyr wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, ac i groesawu ein Cymrodyr newydd yn swyddogol. Mae’n nodi dechrau blwyddyn 2021-22 y Gymdeithas hefyd.
 
Mae pob Cymrodyr yn gymwys i fod yn bresennol, ac rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni.
 
Os oes gennych unrhyw newyddion yr hoffech i ni ei grybwyll, cysylltwch â Joe Boyle erbyn 17 Ebrill. Gallai hyn gynnwys manylion unrhyw ddyfarniadau, gwobrau, anrhydeddau neu gyflawniadau arbennig yr hoffech eu rhannu gyda’r Gymrodoriaeth.

Cyfarfod Croeso

Eleni, byddwn yn cynnal cyfarfod croeso anffurfiol hefyd cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (11.30am). Mae hyn wedi’i anelu at ein Cymrodyr newydd, ond rydym yn croesawu pob Cymrodyr a hoffai ymuno â ni i ddysgu mwy am y Gymdeithas, a sut y gallwch weithio gyda ni.

Yn anffodus, ni allwn eich gweld i gyd yn bersonol, ond yn dilyn llwyddiant Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020, byddwn yn defnyddio Zoom i ganiatáu i Gymrodyr ymuno â’r cyfarfod o gartref eto eleni.

Cofrestrwch yma i fynychu naill ai’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y cyfarfod Croeso neu’r ddau.

Pleidleisio drwy brocsi

Os na allwch chi ddod i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ond yn dymuno pleidleisio drwy brocsi, cliciwch yma i gwblhau eich ffurflen Procsi erbyn 4pm ddydd Llun 17 Mai

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi ar 19 Mai.